Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.
Yn wir, roeddwn mor hyfedr ar wneud hyn nes fy newis i fod yn gyfrifol am y faner ymhob cynulliad pryd y gelwir ar yr holl drwp i saliwtio'r faner Brydeinig, seremoni nad oeddwn yn ei hystyried yn fradwrus y pryd hynny.
unwaith eto dydw i ddim credu fod y rheng ôl yn iawn a chan fod yr alban yn hen feistri ar gamochri yn y sgarmesi hyd y gwelaf i dim ond un o'r rheng ôl sy'n cael eu hystyried fel taclwr, mark perego.
Os nad oes, mae o leiaf dwy ffactor y gellir eu hystyried:- (a) Mae'r hyn a wnaeth, wedi ei wneud pan oedd yn blentyn y byd hwn, yn ddieithryn i wladwriaeth Israel Duw, ac o dan lywodraeth tywysog llywodraeth yr awyr.
Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor, i erlyn mewn achosion clir (yn eu barn hwy) dan y ddeddfau cynllunio heb gyflwyno'r achosion i'w hystyried gan y Pwyllgor ond ei fod i roi gwybod i'r aelod lleol am y sefyllfa cyn erlyn.
Yr un wythnos y dywedwyd hynny datgelwyd hefyd fod merched gyda geirfa dda yn cael eu hystyried yn fwy secsi gan ddynion na merched llai rhugl.
Mae arnom ofn cael ein hystyried yn ofergoelus neu'n hen ffasiwn.
Mae sut i drosglwyddo'r gofynion ymhob pwnc yn brofiadau dysgu effeithiol yn fater i ysgolion ac athrawon eu hystyried.
Mae nifer o bethe i'w hystyried.
Os oedd y beirniaid yn ei dyfarnu'n orau o blith cystadleuwyr neithiwr ar sail dwy gân - rhai hir oedd yn sicrhau bod ei rhaglen yn ugain munud, mae'n wir - yna rhaid eu bod nhw'n ei hystyried hi'n dalent arbennig iawn.
Eironi mwyaf Ethiopia yw ei bod yn cael ei hystyried fel 'basged fwyd Affrica'.
Eto i gyd, mae'r plant hyn yn cael eu hystyried yn ddigon ffit i fedru byw yn y gwersyll ei hun.
Da ni'n rhy debyg i'n gilydd yn ôl y plant a dydw i ddim yn siwr ydyn nhw'n golygu hynny fel gair o ganmoliaeth ynteu awgrym o feirniadaeth ond y mae yna rywbeth yn braf cael eich hystyried fel rhywun cwbl wleidyddol anghydnaws.
Ro'n nhw, yn naturiol, yn edrych ar daith i Ganada fel gwylie pur; ond all taith rygbi ddim cael ei hystyried yn wylie.
Mae'n bwysig, felly, ceisio sicrhau fod goblygiadau ieithyddol datblygiadau newydd yn y maes yn cael eu hystyried yn gynnar yn y broses ddatblygu.
Fe fydd cyhoeddiadau swyddogol y Senedd yn ddwyieithog, fe gyhoeddir testun y Bwletin Swyddogol (yr 'Hansard') mewn Basgeg a Sbaeneg, ac fe fydd y ddwy iaith yn cael eu hystyried yn wreiddiol.
Er i'r anterliwtiwr dawnus hwn gyhoeddi cyfrol y gellir ei hystyried yn arloesol, o waith beirdd eraill, a chyfrol o'i waith ei hun, yr oedd yn llawer enwocach am ei faledi.
Mae'n rhaid i'r iaith ddod â phobl at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu; dylai hi gael ei hystyried fel rhywbeth i ymfalchïo ynddi a'i defnyddio, nid fel niwsans neu fygythiad.
Yng Ngolwg Duw, cawn ein hystyried yn seintiau drwy aberth rhywun arall.
Yn achos y projectau blaenoriaeth, rhoddir amlinelliad bras o'r math o waith y gellid ei gyflawni yn nhermau: a) y broblem i'w hystyried, a b) y camau ymchwil i'w dilyn.
Ond roedd y ddyletswydd tuag at y fro a thuag at yr Eisteddfod ei hun i'w hystyried ac yn y pen draw teimlai nad oedd modd gosod dymuniadau personol o flaen y ddyletswydd honno.
Yr oedd yna rai â'u teyrngarwch i'r mudiad mor ddwys a dwfn fel na fedrent hystyried y mater yn oeraidd, ac yn wyneb digwyddiad fel Tryweryn, yr oedd yna wanobaith llwyr, ac angen emosiynol clir am drobwynt dramatig.
Ychwanegodd ymhellach ddwy reol gyffredinol ynglŷn â safon beirniadaeth a natur cyfalaw i'r pwyllgor eu hystyried ymhellach.
Ar ol yr ymdriniaeth hon o ofynion y toddiant sy'n addas i gynnal bywyd, cesglir mai dwr yw'r unig bosibilrwydd ac mai amgylcheddoedd tebyg i'r system garbon dwr y dylid eu hystyried, sef amgylcheddoedd tebyg i'n Daear ni.
Un o'r prif agweddau y dylid ei hystyried yn ddwys yw sut y gellid dylanwadu ar y sefyllfa sosio-economaidd leol drwy weithdrefnau cynllunio.
a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.
Pe baent yn llwyddiannus yn y pen draw dyna fyddai diwedd ar ein tîm cenedlaethol, gan na fyddai Cymru wedyn yn cael ei hystyried fel gwlad ar wahân, yng nghyd-destun pêldroed o leiaf.
Un agwedd yn unig yw honno, agwedd a all fod yn gamarweiniol iawn o'i hystyried ar ei phen ei hunan.
Er bod 18% o'r rhai a ymatebodd yn eu hystyried eu hunain ar hyn o bryd yn rhugl, dywedodd 3% arall iddynt fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn y gorffennol.
Pe bai angen, gellid cynnal ymchwiliad cyhoeddus gan archwiliwr annibynnol, a byddai ei argymhellion ef yn cael eu hystyried gan yr ysgrifennydd gwladol, pan ddaw yn bryd gwneud y penderfyniad terfynol.
Lle ceir diffyg darpariaeth ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a/ neu ddatblygiad y dimensiwn Cymreig mewn pynciau lle y gellid disgwyl iddynt fod wedi cael eu hystyried - yn arbennig y pynciau hynny lle ceir Gorchmynion ar wahân yng Nghymru - dylid gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw.