Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.
Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.
Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.
'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.
Wel, tydy pob dima yn help iddi i fagu Hywal bach.