Mae'r Arlywydd Clinton wedi cyfarfod Yasser Arafat ac Ehud Barak, Prif Weinidog Israel dros y dyddiau diwethaf i geisio dod âr trais i ben.
Cafodd y milwr ei ladd a dau arall eu hanafu ger tref Iddewig yn Llain Gaza yn ystod ymosodiad ar doriad gwawr gan un o grwpiau Fatah sydd â chysylltiad ag Arlywydd y Palesteiniaid Yasser Arafat.
Yn ôl y Palesteiniaid, ychydig wedyn ymosododd hofrenyddion Israel ar ganolfan yn perthyn i warchodwyr Yasser Arafat, ond gwadu hyn wnaeth byddin Israel.
Dros nos ymosododd hofrenyddion Israel ar nifer o dargedau Palesteinaidd, gan gynnwys swyddfeydd mudiad Fatah Yasser Arafat.