Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ydyn

ydyn

'P'run bynnag, rydyn ni'n gwybod y gyfrinach rŵan.' 'Ydyn,' meddai Iestyn, gan ddal i graffu rhwng y cerrig yn y mur fel pe bai yn disgwyl gweld y dyn yn dod yn ôl.

Mae Llafur yn paratoi i'n argyhoeddi na fydd Quangos yn Quangos os ydyn nhw'n llawn o bobl Lafur.

Er enghraifft, efallai y bydda'i'n trafod fformiwla y bydda'i'n cymeryd yn ganiataol eu bod yn ei wybod ac yn darganfod nad ydyn nhw ddim.

Un rheswm am hynny yw bod yr awduron Saesneg wedi magu rhyw gymaint o hunan-hyder ac nad ydyn nhw bellach llawn cymaint o ofn yr awduron Cymraeg.

o ydyn, mae'r rhwyd yn cau amdanyn nhw yn barod.

Mae gwaith y chwaraewyr yn y gymuned yn gwneud Cerddorfa'r BBC yn uniongyrchol berthnasol i fywydau llawer o bobl yng Nghymru – yn enwedig y rheiny nad ydyn nhw hwyrach wedi tywyllu drws neuadd gyngerdd o'r blaen.

'ia, ydyn.' Botwm melyn ...

Mae mynydd o dasg yn wynebu tîm John Hollins os ydyn nhw'n mynd i aros yn yr Ail Adran.

Mae pobol yn dweud mai tîm un-dyn ydyn ni ar y funud - a mae e'n whare'n wych.

Cyngor y Celfyddydau sydd wedi bod yn gofalu am y ddrama - biwrocratiaid di-weledigaeth ydyn nhw, mae arna i ofn, a dyna pam rydyn ni yn y sefyllfa yma.

Mowredd, ydyn ni? ebychodd yr holwr mewn syndod.

Rydw i'n gwybod yn union sut rai ydyn nhw bellach a does dim angen i ti boeni.

Roedd y cyhoeddiad yn ymgais amlwg i dreio dynnu'r colyn o'r feirniadaeth groch sy'n debyg o'u hwynebu yn ystod yr wythnos nesa' - nad ydyn nhw'n gwneud dim ond penodi pobol i swyddi.

Maen nhw'n anghofio natur gorfforol sylfaenol y gêm ac os ydyn nhw'n anghofior elfen hon fe ddylsent fynd i chwarae rhywbeth arall.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Creaduriaid bach addfwyn ydyn nhw, gyda llygaid mawr brown.

Rhaid i ni gofio bod rhan fwya o'r tîm yn whare rygbi yn Seland Newydd ac er nad ydyn nhw'n whare gêm yn rhyngwladol - mae'r unigolion yn whare rygbi o safon uchel iawn.

Ydyn nhw'n canu ar adegau gwahanol o'r dydd?

Tybed nad ydyn ni, rai ohonon ni, yn edrych ar air Duw fel print mân nad yw'n berthnasol i'n taith ni trwy fywyd?

Rhaid iddyn nhw gael buddugoliaeth yn erbyn Reading ddydd Sadwrn os ydyn nhw am aros yn yr Ail Adran.

Mae'r plant yn ofnus am nad ydyn nhw'n deall beth sy'n digwydd, a chaiff rhai eu gwrthod am eu bod yn rhy dal i fynd o dan y bwâu.

Da ni'n rhy debyg i'n gilydd yn ôl y plant a dydw i ddim yn siwr ydyn nhw'n golygu hynny fel gair o ganmoliaeth ynteu awgrym o feirniadaeth ond y mae yna rywbeth yn braf cael eich hystyried fel rhywun cwbl wleidyddol anghydnaws.

Fydden ni ddim yn caniatau plannu cnydau os na fydden ni'n hyderus nad ydyn nhw am wneud drwg i bobol, anifeiliaid na'r amgylchedd.

Wn i ddim ar y ddaear pwy ydyn nhw'r rhan fwya; wyrion efalla erbyn hyn, i rai yr oeddwn i'n gybyddus â nhw amsar maith yn ôl.

Os gallwn ni aros yn ymyl y lle a gwylio Pwll Mawr, hwyrach y gallwn ni weld pwy ydyn nhw.

O'r cyfan o'r stori%au ysgogol, amrywiol a chyfoethog hyn, basgediad sy'n perio i ni fod yn wirioneddol falch o ansawdd ein rhyddiaith creadigol ar hyn o bryd, ei stori%au hi hwyrach sy'n cynnig y sylwadau mwyaf cynnil, praff a phriodol ar ein cyflwr fel bodau dynol yn niwethafiaeth yr Ewrob yr ydyn ni'n perthyn iddo.

Ydyn nhw'n cefnogi'r milwr yma sy'n dweud mai ef yw eu gwir dywysog' 'Ydyn, yn ôl pob sôn.

Ydyn nhw'n hopian neu'n cerdded pan maen nhw'n symud?

Os ydyn nhw wedi ysgrifennu'n benodol am bêl-droed dylid fod wedi nodi hynny.

Yr hyn syn wirioneddol ryfeddol, wrth gwrs, yw fod apêl caneuon Edward H gymaint at yr ifanc heddiw ag ydyn nhw at henaduriaid fel fi.

Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch, ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae'r cyfrolau hyn yn ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a'r rhyfeddod yw mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw'n gyson ers y gyfrol gyntaf un.

Ond anodd iddyn nhw fod yn rhy siwr gan fod y stricars hyn yn ddawnus iawn mewn ymddangos lle nad ydyn nhw i fod.

Gwir y gair, roedd pawb yn perthyn i bawb, ond ches i ddim munud o drafferth, chwarae teg John Jones, Bron Aber, wedyn, y bugail, a phencampwr y treialon cŵn defaid, ynte'n dweud - 'Pobl y mynydd ydyn ni' roedd hynny'n berffaith wir, ond doedd dim o oerfel y mynydd yn perthyn iddyn nhw chwaith - cynhesrwydd ges i ar bob llaw.

Mi fyddwn ni'n herio pwy bynnag sydd yna o ran y cwangos addysg, os ydyn nhw'n bresennol, ac mae hynna'n cynnwys y Bwrdd (Iaith)."

Rydym yn meddwl yn aml iawn fod pobl hŷn yn `wahanol' a hwyrach nad ydyn ni'n eu trin nhw fel oedolion urddasol pan fyddwn ni'n siarad â nhw.

Llygod - sgwaters ydyn nhw nid rhai dof - a slygs ac mae'r slygs yn bwyta'r gwenwyn llygod.

mi wn fod na bobl grefyddol dda iawn, yr enghraifft y mae pawb yn ei rhoi yw'r fam teresa sy'n profi i mi mor eithriadol o brin ydyn nhw.

nid yr heddlu ydyn ni.

'Beth ydyn nhw?' holodd Bleddyn gan fethu â chuddio'i chwilfrydedd.

Tybed nad ydyn nhw, wedi iddyn nhw gael ein cefnau ni, yn mynd i'w hystafelloedd, yn cloi arnynt eu hunain, ac yn cael ffit orffwyll o chwerthin þ am ein pennau ni?

Go brin y gall y rhan fwyaf ohonom gofio enw cynllunydd y set hyfrytaf a welsom erioed; ac er mor amlwg yw eu gwaith, sêr tywyll y 'stafell gefn ydyn nhw, oll ac un.

Yr ydyn ni i gyd wedi gwneud pethau gwirion pan yn ifanc ond yn wahanol i Mr Hague yn sylweddoli gorau po leiaf ddywedwn amdanyn nhw wedi inni gallio rhywfaint.

Brwyn glas, ysgafn nad ydyn nhw'n dda i ddim i neb.

Ydyn ni'n teimlo'n hoed y bore 'ma?

O nabod Graham fel ydyn ni - mae fen gweithion galed nawr - tymor nesaf rwyn siwr bydd en gweithion fwy caled fyth.

Mae gwaith y chwaraewyr yn y gymuned yn gwneud Cerddorfar BBC yn uniongyrchol berthnasol i fywydau llawer o bobl yng Nghymru - yn enwedig y rheiny nad ydyn nhw hwyrach wedi tywyllu drws neuadd gyngerdd o'r blaen.

Addasiadau ydyn nhw o lyfrau a gyhoeddwyd yng Ngwlad Belg.

Mae'n siŵr y gwyddoch chi, fel finna, am rai nad ydyn nhw byth yn chwerthin.

Mae petha wedi newid." "Wel ydyn siŵr.

'nac ydyn, nac oes.' Holodd y llais.

Y drefn arferol, felly, yw bod pobl Libya yn cael caniatâd i fod yn berchen ar eu tai a'u ceir - ar yr amod nad ydyn nhw'n dwyn ffrwyth llafur pobl eraill.

Cenedl rygbi ydyn ni yn draddodiadol.

Efallai y gallaf ei berswadio i adael i chi gael golwg ar y tystysgrifau yma heb orfod prynu copi%au, os ydyn nhw ganddo fo.'

A oes gan y disgyblion agwedd bositif tuag at waith; a yw eu presenoldeb yn foddhaol; ydyn nhw'n cadw at y dasg; a yw eu gallu i gadw at y dasg yn gwella; a ydynt yn cymryd rhan lawn yn y wers?

Ond ar yr ychydig achlysuron yr ydw i wedi gwneud daeth yn amlwg nad ydyn nhw'n bethau y gallwch chi ddibynnu rhyw lawer arnyn nhw.

Y cwestiwn yw, a ydyn ni'n deall yn iawn ystyr ac arwyddocâd 'cael ein derbyn?' Pwy sy'n derbyn?

'Mae'r pwyse arnyn nhw yn y Cynghrair yn drwm oherwydd mae angen iddyn nhw ennill bron bob gêm os ydyn nhw'n moyn aros yn yr Ail Adran.

Dynion ydyn nhw i gyd; dyw mam y plentyn na'r un fenyw arall yn bresennol.

Mae'n cymharu ein cyrff presennol ni â phebyll, pethau dros dro, nad ydyn nhw ddim wedi cael eu hadeiladu i barhau.

Yr oedd gwich Ms Wright yn un o ddau beth a ddigwyddodd yn ddiweddar i beri im cenhedlaeth i ymhyfrydu yn y ffaith nad ydyn nhw'n sgwennu caneuon fel yna mwyach.

Ond os gallwn ni gadw i fynd fel ydyn ni wedi bod yn 'neud sdim rhaid i ni ofni neb.

'Ydyn.'

Corachod ydyn nhw, a rheini'n rhai blin iawn.

'Os ydyn nhw'n mygu gwybodaeth, beth am addysg?

Yn eu plith y mae: Dim Stripars (rheol 2), Dim trafod gwleidyddiaeth (7) Dim Dynion onibai... (3) Nad ydyn nhw ond yn aros am hanner awr (4) A'u bod yn prynu peint i'r merched i gyd cyn gadael (5).

mae rhyddid i bobl addoli elvis presley os ydyn nhw'n moyn, neu ryddid iddyn nhw addoli eliffantod pinc sy'n hedfan o gwmpas yr wyddfa os ydyn nhw'n moyn, dim ond iddyn nhw beidio â gwthio'r peth arna i, a pheidio â gweiddi cabledd os bydda i'n digwydd chwerthin am ben eu ffolineb.

Mae brwydr ffyrnig yn dilyn ac er nad oes gobaith gan eich tri gwrthwynebwr nid ydyn =t am ildio.

ta beth, mae'r nofel yn gweithio ar lefel stori%ol amlwg a dyna beth sy'n apelio at y rhan fwyaf o'r darllenwyr, dwi'n credu, ac os nad ydyn nhw'n poeni am yr is-haenau na'r strwythur, wel dyna fe.

Ond newidiadau bach ydyn nhw, a mae e'n gwybod yn ei feddwl e ei hunan pwy fydd yn y tîm yn erbyn De Affrica.

'Does dim rhyfedd eu bod â chysylltiadau agos â Tseina,' meddai cadeirydd y siambr, 'gwþr busnes llwyddiannus ydyn nhw bob un; a pha ystyr sydd i fod yn bleidiol dros Tseina?

Does neb yn hollol siŵr beth oedd diben gwreiddiol y meini hirion erbyn hyn þ efallai mai dynodi beddau arweinyddion y mae rhai ohonynt; efallai mai nodi man cyfarfod neu efallai mai rhyw fath o allor i'r hen dduwiau ydyn nhw.

Os ydyn ni'n gwneud hyn fe ddylen ni gofio am Archie MacFarlane, y neidiwr parasiwt hynaf.

Ydyn nhw'n cefnogi'r model cymdeithasol o anabledd ynteu'r un meddygol?

Gobeithiaf hefyd eich bod chi, aelodau Seilo, yn barod i'n derbyn ni, fel yr ydyn ni, i fod yn gyd-aelodau o'r eglwys yma.

Y'ch chi wedi clywed rhywbeth?' 'Ydyn.

Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.

Mae cyflogau fan hyn dipyn yn llai nag ydyn nhw ar dir yr Israeliaid.'

Mae sialens a hanner yn wynebu Manchester United os ydyn nhw am fynd trwodd i rownd gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

'O?' meddai Francis, 'pwy uffar ydyn nhw felly?

Does 'na ddim smic mewn theatr os ydy'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond os nad ydyn nhw, mae nhw'n rhyw wingo yn eu seddau ac yn pesychu,' ac er ei bod yn cael budd mawr o drafod yr amrywiol gymeriadau y mae'r cyfarwyddwr yn eu hanfon ei ffordd hi gyda'i chyd-actorion, aiff Judith yn ôl at ei greddfau ei hun er mwyn mynd dan groen y cymeriad.

Mae'r plant yn dysgu Cymraeg yn araf deg ac er wedi eu geni yma yn Awstralia mae nhw yn dweud wrth bawb mai Welsh Australians ydyn nhw.

Dwi'n wlyb at fy nghroen ac mae'r carpiau bratiog yma sgynnai'n llac amdanai, yn da i ddim yn erbyn yr oerfel sy'n gafael ym mêr fy esgyrn, waeth gen i pa mor hudol bynnag ydyn nhw, ac mae hi'n mynd yn hwyr.

Ychwanegodd nad oes ganddo ddim diddordeb yn dathliadau na'r Teulu Brenhinol, ac os ydyn nhw'n talu am y dathliad, pwy sy'n eu talu nhw?, gofynnodd.

Golyga hyn nad ydyn ni'n cael gwenwyn yn ein bara - na dynion sy'n troi'n fleiddiaid!

Fel y dywedodd rhywun, llawn cystal nad ydyn nhw'n mynd i ddisgwyl nes y bydd Michael Douglas wedi adfer ei siap ef hefyd.