Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymadawodd

ymadawodd

Pan ymadawodd y Rhufeiniaid gadawsant wacter ac ansicrwydd o'u hôl, a chyn pen dim llamodd y Pictiaid rhyfelgar yn baent i gyd dros Fur Hadrian a dechrau difrodi'r wlad.

Ymadawodd Mr Tal Humphreys â'r ardal ar ei benodiad yn Brifathro Ysgol Llanymynech.

Ymadawodd Alun ag Ysgol Beaumaris i fynd i'r banc.

Agorodd y drws yn araf rhag iddo wneud sŵn gwichian ac ymadawodd, gan adael chwa o wynt iasol i mewn ar yr un pryd.

Ei ofid pennaf oedd nad ymadawodd â Hong Kong mewn pryd cyn i'r Nipon ymosod.

Yr oedd cymal yng nghytundeb Henry pan ymadawodd ag Auckland yn dweud na chaiff o hyfforddi unrhyw dîm ond Cymru.

Ar y gair syrthiodd Cymru Fydd i lewyg yn y fan a'r lle; yn fuan wedyn, heb ddadebru a heb stŵr, ymadawodd.

Pan ymadawodd rhoddais ochenaid o ryddhad ac ysgafnhaodd fy meddwl gryn dipyn.

yna, yn sydyn, fe ymadawodd betty â madrid.