Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymadrodd

ymadrodd

Rhannau Ymadrodd a sut i ddefnyddio'r wybodaeth wrth ymdrin a chywirdeb yng ngwaith y disgyblion.

Yr Enw sy'n cynnal syniad y frawddeg neu'r ymadrodd - yn oddrych.

Mae'r emynau hynny yn rhan o wead cof ac ymadrodd nifer fawr ohonom, yn arbennig felly y rheini a faged gyda'r Annibynwyr.

Prin yr âi i'w wely heb ei rannu ag Eleri ei wraig, a rhannu'r gair neu'r tro ymadrodd gyda ni ei gydweithwyr amser coffi drannoeth.

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

Defnyddir yr ymadrodd "addysg ddwyieithog" yn yr adroddiad hwn i olygu addysg a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Wna-i ddim ar hyn o bryd geisio esbonio sut y mae'r gyfundrefn arbennig hon yn sefyll ychydig ar wahân i'r rhannau ymadrodd eraill, heblaw crybwyll nad yw mor gysylltiol gystrawennol â'r lleill (fel arddodiaid a chysyllteiriau) ac mai hon yn anad dim sy'n cynnwys y deunydd ystyrlon mwyaf 'diriaethol' ymhlith geiriau.

Nid llai amrwd yw ymadrodd fel 'ymlediad heddychol comiwnyddiaeth'.

Dydio ddim, rywsut, yr ymadrodd syn siwtior achlysur.

Fel rheol arferaf blannu tatws yn yr ardd allan yn ystod yr wythnos gyntaf neu ail o Fawrth ond nid oedd cyflwr y pridd yn ddigon sych eleni i ganiata/ u gwneud hynny felly bu ymarfer ymenydd (gwell ymadrodd na 'crafu pen') i geisio dull o ddod dros ben hynny.

Symudir yn yr adran nesaf i drafod yr atalnodau, y priflythrennau, sut i bwysleisio'n gywir ac ymlaen wedyn i ddadansoddi tro%ellau ymadrodd, y byrfoddau, y rhifolion Rhufeinig, geiriau cyffelyb eu sain ond gwahanol eu hystyr.

Bellach, mae arna i ofn, mae toreth o reolau newydd eto ar ein cyfer ni sy'n defnyddio'r ffordd fawr, a alwaf, os caf fathu ymadrodd Cymraeg, y gyfundrefn 'dirwy ar y pryd'.

Eglurodd Paul y gwahaniaeth yn fanylach na hyn yn ei ymadrodd cynnil, Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd,' ac os metha'r cnawd yn ei ddyletswyddau yna fe syrth y dyn fel y blodeuyn yn ôl i'r pridd.

Efallai fod yna gynhyrchwyr annibynnol yng Ngwynedd sy'n cofio ymadrodd Marx am hanes yn ei ailadrodd ei hun, y tro cyntaf fel trasiedi, yr eildro fel ffars.

Dyma rai dadleuon o blaid credu bod yr ymadrodd "nid yw yn gaeth" yn golygu mwy na rhyddhau o gyfrifoldeb darparu aelwyd.

Yr Enw sy'n dal y naill neu'r llall, ac y maent yn dibynnu arno: y naill, i adeiladu ymadrodd, y llall i adeiladu brawddeg.

Fe grynhoir goblygiadau'r syniadau hyn yn yr ymadrodd cyfarwydd, 'Y Fro Gymraeg'.

Yn wir, mae tuedd i'r darllenydd fod yn ddigon naïf a thybio y gallai gynnig gair, ymadrodd neu drosiad gwell na'r un a roddir.

Nod dysgu iaith yw nid llawer o ymadroddion a brawddegau, ond Tafod - sef mecanwaith cenhedlu iaith, pob ymadrodd, pob brawddeg.

Y mae'r 'aros yn hir' yntau yn ymadrodd creulon ei gyffredinedd.

Ond o blith y genhedlaeth honno, efallai taw Parry-Williams - yn fwy felly yn nhinc felancolaidd ei ymadrodd nag mewn unrhyw ddatganiad croyw - a roes lais yn bennaf i'r digalondid sylfaenol hwn.

Mae'n beth chwithig, fod bynnag, bod yr ymadrodd yn dod yn union ar ôl paragraff sy'n trafod cariad rhwng mab a merch, cariad sy'n arwain at briodas.

Uchafbwynt lluniaeth yr wythnos (sylwch ar y clefyd o'r ymadrodd ffasiynol newydd i olygu pethau ar y teledu!) wrth gwrs oedd y telynathon o'r HêndyGwyn-ar-Dâf.

Dylai dyfarniadau ar ansawdd y dysgu mewn Cymraeg/Saesneg roi ystyriaeth i ymateb y disgyblion i dasgau o ran eu diddordeb, eu cyfranogiad a'u mwynhad; cyflymder eu gwaith; i ba raddau y maent yn amlygu cynnydd wrth ddefnyddio'r iaith lafar ac ysgrifenedig, ac yn datblygu annibyniaeth, llithrigrwydd ymadrodd a chywirdeb yn briodol i'w hoedran a chyfnod eu datblygiad.

Eto maen anodd meddwl am unrhyw gyd-destun lle na fyddai ymadrodd mwy naturiol Gymreig yn well nag ef.

Ymhlith y rhannau ymadrodd (parts of speech) yn ein gramadeg mae yna un gyfundrefn gryno sy'n berthnasol yn y cyd-destun hwn.

ac wrth gwrs rydyn ni'n byw ym mhentre'r byd nawr gan addasu ymadrodd marshall mcluhan ) felly mae maeth yn dod o bob man, o bob cyfeiriad, oni bai'ch bod yn byw mewn gwâl gan ddwyn un o ddelweddau kafka ).

Felly mae peth gwrth-ddweud yn y ddau ond cawn weld yn yr hydref pa ymadrodd i lynu wrtho yn y dyfodol.

Yn wir, y mae'n gymaint o fyrdwn nes bod dyn heddiw - pan yw nifer o ddelfrydau'r cylchgrawn wedi eu sylweddoli i raddau yn tueddu i gydymdeimlo ag ateb y gwr plaen ei ymadrodd hwnnw, Iorwerth C.

Mae'n disgrifio'r ymweliadau hyn yn ei atgofion mewn geiriau sy'n ei ddangoS 'ar ei elfedeiddiaf', a defnyddio ymadrodd Tegla: Ym mis Mawrth yr oedd cuwch ar Foel Famau heb nemor wen haul: ond gwen oedd ar y moelydd a dyffryn Alun fis Mai.

Gwir fod ei feiddgarwch ymadrodd yn nyddiau Caerdydd wedi peri i Laud ei ddisgrifio fel "bold, ignorant young fellow% ond, wrth gwrs, ni wyddai Cradoc ddim am y feirniadaeth ac ni newidiodd ei ddull.

Er hyn, yr oedd y dyneiddwyr yn sicr yn ymdeimlo â bygythiad, ac yn wyneb hynny, yr oedd angen pwysleisio fwyfwy ogoniannau'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Brytanaidd, ynghyd, wrth gwrs, a lladd ar y rhai oedd yn bradychu'r gogoniannau hyn drwy eu 'gollwng dros gof', a defnyddio ymadrodd Gruffydd Robert.

Atebodd Iesu, 'Dywedais wrthych mai myfi yw' Heb sôn am y datganiadau mawr Myfi yw bara'r bywyd etc, y mae'r ymadrodd yn atseinio Ydwyf yr Hwn Ydwyf a Myfi yw Efe.

Yn lle rhethreg sicr, soniarus, mae'r ymadrodd yn gwyro tua'r llawr, yn gorffen mewn sibrydiad.

Oblegid 'does wybod yn y byd pa gyfran o'r ysgrythur, pa ymadrodd ynddi yn wir, a fydd yn fiwsig yn eich clust ac a ddeffry res hir o gytseiniau ac o atseiniau mewn teimlad a meddwl na wyddoch i ble'r arweiniant chwi cyn y diwedd.

Yn y cyfamser bu'n frenin llwyfan yr Eisteddfod, a chafodd gyfle o flwyddyn i flwyddyn i gadw'n gyson o flaen llygaid y beirdd bwysigrwydd pethau cyntaf eu crefft - urddas arddull, glendid ymadrodd, a phurdeb iaith.

Yn Prydeindod mae ganddo ymadrodd am y dolur angeuol - 'anrhaith angof': "Y mae yna ddolur dyfnach .

Rhaid fod ei frawd Dafydd o oedd yn hŷn nag ef o ryw ddeng mlynedd, yntau, wedi chwarae rhan bwysig yn ei addysg, yn enwedig gan fod pob tystiolaeth yn cytuno fod Dafydd yn naturiol dalentog, fod ganddo gof gafaelgar a dawn ymadrodd, a'i fod wedi darllen 'llawer yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth a ffug-chwedlau'.

Gellid defnyddio'r gyfundrefn gryno hon mewn ymadrodd: e.e.

Dyna'r esboniad cryno llawn ar gyfundrefn Rhannau Ymadrodd Traethiadol.

Sylwer ar y pwyslais a osodir yma ar yr ymadrodd 'yr unig elfen'.

Daliaf i gofio'n arbennig am yr ymadrodd a ddefnyddiwyd droeon ar lafar gwlad i ddisgrifio'r hen sustem greulon, galon-galed a drefnwyd o'r Kremlin: 'Dyw Moscow byth yn wylo.'

Mae hi'n hen bryd i ni droi ymadrodd ar ei ben.

O ran cenedligrwydd cyfreithiol, Saeson oedd y Cymry yn awr, er i'r cof am wlad a chenedl ar wahân gael ei gadw'n fyw gan yr ymadrodd "Lloegr a Chymru%.

rhyfyg ar ran dyn a fyddai ceisio esbonio'r ddau ymadrodd.

Beth bynnag am hynny, roedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol ei ymadrodd a fyddai'n cynhesu ati o ddifri pan y synhwyrai fod rhai o leiaf o'i wrandawyr yn mwynhau'r dull anghonfensiynol o draethu a'u bod yn awchu am ragor.

Ar ôl sefydlu'r frawddeg seml, nid yw datblygiad pellach - datblygu gair unigol i fod (a) yn ymadrodd, neu (b) yn gymal, neu amrywio trefn olynol - ond yn fater o estyn yr un cynhwysion.

Ymadrodd crand ydi o am fwy nag un person yn rhannur un ddesg.

Fe'i gelwir yn rhannau ymadrodd traethiadol.

Mewn ymadrodd ystrydebol, darganfu o newydd y traddodiad Cymreig mewn barddoniaeth a rhyddiaith.

A'r un ymadrodd ddefnyddiwyd mewn rhifyn arall wrth adrodd am y cynnwrf a ddigwyddodd ym Mhwllheli wedyn.

Canlyniad hyn oedd cael ambell ymadrodd a brawddeg a oedd, a dweud y lleiaf, yn anystwyth os nad yn amhersain.

Gwelir mor fynych y defnyddia'r Hen Destament yr ymadrodd "brenhinoedd y cenhedloedd" (e.e.

Mae yna ymadrodd hyfryd i ddisgrifio tywydd ar ddechrau dydd pan fedr fynd yn hindda neu'n ddrycin: rhyw dywydd "be wna i' yn 'te.

Di-Gymraeg oedd fy mam ar wahan i ambell air neu ymadrodd.

Ym marn Dr Jones 'ymadrodd cyffredinol' yw 'cariad at chwaer oedd yn Harri Tomos', tebyg i 'cariad mam at fab' ...

A chredwch chi ddim i be yr oeddan nhw eisiau imi newid y gair cownt yn yr ymadrodd colli cownt yn y paragraff nesaf.

A chan mai yma yr oedd cysegrle pennaf y Derwyddon, onid arwyddocad yr ymadrodd Mon Mam Cymru oedd mai hi oedd mam eglwys Cymru oll?

Gellir dadlau fan hyn fod yr ymadrodd Nid yw y brawd neu chwaer yn gaeth yn golygu eu bod yn rhydd o'r cyfamod priodas.