Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymaflyd

ymaflyd

Edmygwn fanylder Robin, ond o ran hynny un felly oedd wrth natur, gan ymaflyd o ddifri' yn beth bynnag a wnâi.

Rhoddodd Caradog ei law mewn anobaith yn un o logellau ei fantell - ac ymaflyd mewn cwdyn.

Ond ni ellid, ar ôl ymaflyd yn gadarn ymarferol yn y cnewyllyn hwn, gael unrhyw frawddeg yn y byd Cymraeg nad yw'n cael ei hadeiladu o amrywiad neu gyfuniad o hon.

O fewn y wlad gaeedig hon daeth y bechgyn i ddygymod â byw garw yr heliwr a'r Pen Cynydd gan ddysgu campau gwyr llys ac ymaflyd codwm.

Mae Culhwch, yn ei lasoed, wrth geisio ymaflyd yn yr Hunan, yn symud oddi wrth ei fam(au), dan ddylanwad y tad - yr ochr fwyaf echblyg i fywyd - ac wedi iddo ymryddhau oddi wrth yr elfen famol, rhag bod yn Oidipos, yn meddiannu a phriodi'r elfen fenywaidd dderbyniol, briodol i'r Hunan, sef ei amima: Olwen.

Braidd yn anffodus oedd hi efallai bod y cyntaf i ymaflyd yn y faner honno'n ddyn o egwyddorion cryfion, yn rhywun na fedrai weld bod rhai o'r pethau a adroddwyd yn y llyfrau a ddysgodd iddo sut i fyw, am gariad brawd at frawd ac at elynion yn tueddu i golli'u grym mewn awr o gyfyngder cenedlaethol'.

A rhaid dweud o blaid Ferrar nad oedd yn ofni ymaflyd codwm â'r mawrion lleol pan deimlai fod hynny'n fantais i'r eglwys.