Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymagor

ymagor

Nid mudiad na chyflwr ydoedd yn gymaint â phroses o ymagor ac ysgwyddo cyfrifoldeb.

Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.

Cyfaill dall wrth f'ochr fel petai'n teimlo taith yn ymagor o'i flaen fesul milltir.

'Rwy'n cofio'r goleuadau yn y Neuadd yn diffodd yn araf, nid yn sydyn fel yn ysgoldy'r capel, a'r goleuadau'n chwyddo wedyn ar y llwyfan, y llen yn codi a byd hudolus y ddrama yn ymagor o flaen fy llygaid.

Nid am fod to y twnnel wedi ymollwng y dylifai'r goleuni drwyddo, ond fel yr esboniais, ond am fod yno awyrydd yn ymagor i fro'r goleuni.

Trefnu sut y mae'r frawddeg greiddiol yn ymagor.