Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymbalfalu

ymbalfalu

Syrthiodd ei dors allan o'i boced ac wrth iddo ymbalfalu o'i gwmpas amdani gafaelodd ei ddwylo yn rhywbeth a oedd yn debyg i brennau.

Ar ôl ymbalfalu am y switsh lectrig mewn ystafell anghyfarwydd, gwelais ei bod yn hanner awr wedi dau yn y bore a meddyliais fod rhywun yn siwr o fod yn chwarae tric go wael arnaf.

Nid ymatebodd Gareth, ac wedi taflu golwg sydyn ato, trawodd Adam ef unwaith eto cyn ymbalfalu am y llyw wrth i'r car sgrialu o amgylch cornel siarp yn y ffordd.

Rhedodd hithau â'r lamp ar y bwrdd, ac erbyn mynd yn ôl ni welai ddim ond dau gysgod megis wrth y llidiart, ac un yn gweiddi "Gest ti hi?" wrth ymbalfalu.

Gallai ei dychmygu'n awr, yn gorwedd yn ddu ar ochr y mynydd yn y fan acw, a niwl fel cap llwyd am ei phen, fel rhyw hen wrach yn gwneud hwyl am ei ben, ac yntau;'n ymbalfalu tuag ati ar foreau tywyll fel hyn, a dim gwaith i ddechrau arno yn oerni'r bore; dim ond mynd o gwmpas a'i ddwylo yn ei boced i fegera.