Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymbaratoi

ymbaratoi

Yn syth ar ôl thau yr etholiad, ar ddydd Gŵyl Ddewi, cyhoeddodd Undeb Cymru Fydd ei fod o blaid senedd a'i fod yn ymbaratoi i gynnal Cynhadledd yn Llandrindod i wyntyllu'r pwnc, ac i sefydlu peirianwaith i drefnu ymgyrch a deiseb.

Yn ogystal â datblygu'i sgiliau milwrol, fe ymddengys fod Siôn yn ymbaratoi i ddilyn ei dad fel bardd, yn canu i gynulleidfa ac yn derbyn gwobr (fel y byddai'r bardd yn derbyn tâl) am ddynwared llef ci hela ('žo').

Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.

Mae Geraint yn ymbaratoi i ddychwelyd i Gaerllion gydag Enid, ond yn y cyfamser mae llys Arthur wedi bod wrthi'n dilyn yr helfa.

Er mwyn sicrhau llwyddiant ac effeithiolrwydd y Polisi Dwyieithog o'r diwrnod cyntaf, galwn ar y Swyddfa Gymreig i sefydlu Grwp Tasg i gydlynu ymdrechion a syniadau er mwyn ymbaratoi at gyflwyno Polisi Dwyieithog yn y Cynulliad.

Hwre!' gwaeddem ninnau, yn gwingo yn ein cadeiriau gan bleser ac yn ymbaratoi am yr ugeinfed tro i glywed yr ias yna i lawr y meingefn.