Efallai mai ymgais i ymbellhau oddi wrth ei phrofiad oedd hynny, ond gallwn feddwl hefyd ei bod yn haws o lawer iddi ddangos dyn ifanc yn mynd i'r coleg ac yna i weithio fel athro nag ydoedd i ddangos merch yn gwneud hynny.
Teimlid bod yr Eglwys (er gwaethaf eithriadau megis 'yr hen bersoniaid llengar') wedi ymbellhau oddi wrth y werin Gymraeg, ac felly bod talu degwm i gynnal y sefydliad eglwysig yn anghyfiawn.
Fel y mae yn ymbellhau oddi wrth y set deledu aiff y sain i lawr.
Bowen, hefyd, athro yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, natur yr ymbellhau o du'r ifanc yn y Lluoedd Arfog.
Ac efallai oherwydd hyn, ymddengys mai tuedd oedd i'r rhan fwyaf o aelodau ifanc y Gymdeithas symud i ffwrdd nid yn unig o weithredu fel ffordd o gadarnhau eu cefnogaeth i frwydr yr iaith ond i ymbellhau oddi wrth y mudiad ei hun wrth iddynt ymbarchuso.
Tystiodd y caplaniaid fod y bechgyn hynny a fagwyd yn yr Eglwys, wedi cydymddwyn â'u cyflwr yn well na'r lleill, ond yr oedd perygl iddynt hwythau, hefyd, ymbellhau oddi wrthi.