Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymbelydredd

ymbelydredd

Pan oeddwn i yno, cafodd ei neilltuo ar gyfer plant o Chernobyl oedd yn dioddef o effeithiau ymbelydredd.

Yn ôl "arbenigwyr" y diwydiant niwclear, nid yw defnyddio ymbelydredd i greu trydan yn fwy peryglus na gwneud taffi triog.

Fe gafwyd adroddiad ar genedlaetholdeb yr Iwcraen neu ar Chernobyl, ffynhonnell ymbelydredd defaid gogledd Cymru.

Yn ogystal ag atgenhedlu rhywiol, fe geir mwtaniad mewn natur, lle caiff gwybodaeth enetig yn y DNA ei newid yn ddamweiniol - er enghraifft, wrth i ymbelydredd naturiol effeithio ar sail rhai o'r adweithiau cemegol yn niwclews y gell.

Un o'r rhyfeddodau mwyaf oedd, er gwaethaf problemau mawr yr ymbelydredd, fod pris a gwerthiant wyn a chig oen wedi bod yn dda.

"Dwi'n credu bod lefelau ymbelydredd yn uchel yn yr ardal yma beth bynnag, a'u bod wedi mynd yn uwch ar ôl Chernobyl, a dwi'n ofni bod hynny wedi ychwanegu at y broblem yn achos Helen," meddai.