Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymboeni

ymboeni

Y gwir yw, wrth gwrs, na welodd unrhyw angen am ymboeni ynghylch pethau o'r fath.

Efallai hynny, ond er na fu iddi ymboeni rhyw lawer ynglŷn â thechneg yr oedd yn gyson ymwybodol o werth a phwer geiriau.

Eithriad oedd "AE" (George Russell), yn ymboeni ag egluro'i genedlaetholdeb mewn cyfrol The National Being, a'r myfyrdod dychmygol am wladwriaeth Iwerddon.

Nid yw hynny ond praw fod y llywodraeth wedi cymryd mesur eiddilwch Cymru Gymraeg ac nad rhaid mwy ymboeni amdani.

Y cwbl a ddaliaf i yw mai dyna'r unig fater politicaidd y mae'n i Gymro ymboeni ag ef heddiw.

Nid ydwyf yn dywedyd fod llafurio ac ymboeni gyda hyn o angenrheidrwydd yn niwed i wir grefydd a duwioldeb yn yr enaid....

Y mae rheswm arall pam nad rhaid i'r Llywodraeth ymboeni ynghylch Cymru Gymraeg.

Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid yn unig o'i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg' ond hefyd o'i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau'r Gymraeg, ei hidiomau a'i geirfa.

A dyna meddai Ceri Davies, yr argyhoeddiad "a barai fod ymboeni ynglyn â'r Gymraeg a'i gramadeg yn bwysig" iddo.