Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymchwydd

ymchwydd

Ar ôl yr ymchwydd yna, lle'r oedd yn amlwg yn drwm dan ddylanwad y pulpud, mae ei adroddaidau o ymweliad ag un o feysydd yr ymladd yn llawer nes at newyddiaduraeth fodern .

ni lwyddodd y brwdfrydedd a amlygwyd yn ystod y gynhadledd i barhau am yn hir yn ei ymchwydd ac i ddylanwadu ar drigolion prydain gan i louis napoleon bonaparte, tua deufis ar ôl y gynhadledd, ddymchwel gweriniaeth ffrainc drwy coup d' tat a gwneud ei hun yn ymherodr napoleon y trydydd.

Wrth gwrs, ni welai ddim - dim ond gorwel llwyd, ansicr, ac ymchwydd ewynnog y tonnau cecrus.

Pan syrthiasant i'r ddaear fe'u gorchuddiwyd, cyn iddynt fedru pydru, codwyd y tir gan ymchwydd daearegol, ac wedi miliynau o flynyddoedd o wynt a glaw, daeth y coed i'r golwg.

Williams Parry yn ei soned iddo, gellir ystyried chwechawd clo honno yn ddisgrifiad cyffredinol o'r dyn: Hen arglwydd ansoddeiriau a thwysog iaith, Pa fath wyt ti, neu o ba gymysg dras Pan yw pob dychan a phob can o'th waith Yn llawn o ryfel ac yn llyn o ras, O saint a phariseaid, moelni a moeth Llesmeiriol ymchwydd ac uniondra noeth?

yn symud ymlaen o enciliad i ymchwydd mewn cyfres o symudiadau tonnog.