Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddengys

ymddengys

Ymddengys y darlun braidd yn wahanol i mi.

Yn gyntaf, ymddengys smotyn bach ar y metel, a hwnnw wedyn yn tyfu ac yn disgyn i ffwrdd yn ddarnau man, gan adael arwynebedd bontydd haearn yn gwanhau ac yn dymchwel o achos rhwd, a peth cyffredin yw gweld darnau o rwd ar hen geir.

Os oedd y dorf yn ffyrnig, yna ffars a gafwyd yn y Cyngor ei hun wrth i'r cynghorwyr weiddi ar draws ei gilydd ac i'r offer cyfieithu anghyfarwydd gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf fe ymddengys.

Ar y llaw arall ymddengys fod R.

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Y Fam Ddaear ydyw'r hwch-fam yma, a ymddengys yn aml newn chwedloniaeth moch.

Gan yr ymddengys ei fod wedi camddeall diben y brotest, bydd llythyr arall yn cael ei anfon ato - ar ffurf mwy confensiynol - er mwyn iddo ddeall yn iawn beth yw gofynion y Gymdeithas.

Seymor Cassell, sy'n dod fel rhyw fath o Dad Bedydd o'r Tylwyth Teg, sydd hefyd yn Dad Bedydd yn y Maffia, fe ymddengys.

Ar yr olwg gyntaf ymddengys y teitl yn eironig.

Fel y dywedodd Golygydd Y Cymro mewn cyswllt arall, "Yr eliffant a'r morfil yn unig o holl greaduriaid Duw sydd i'w cadw, fe ymddengys." Yr oedd y dwr llwyd yn fy mhiser yn dechrau gloywi tipyn erbyn hyn; dechreuwn sylweddoli nad diben coleg diwinyddol oedd wynebu problemau trydanol yr oes, ond rowndio'r traddodiad fel llechgi, "heb ofal am y defaid"; un o ddyfeisiadau'r Ffydd i ffoi rhag ffaith, mewn gair.

Ymddengys rhai teitlau o fewn catalog y Cyngor Llyfrau ac eraill yng nghatalogau, taflenni a chylchlythyrau o'r canolfannau a PDAG.

Ymddengys bod byd natur, ac adar yn arbennig yn bwysig i'r awdures.

Yn gyntaf nid yw'r Cynulliad yn gweithredu polisi o ddwyieithrwydd gweithredol ac yn ail ymddengys nad yw'r cyfryngau ar y bwletinau newyddion Saesneg yn gwneud cyfiawnder â'r aelodau hynny sy'n dewis siarad Cymraeg.

Buan iawn y daw arwyddion perygl i'r amlwg, ond ymddengys Gwenan druan yn ddall i'r cyfan.

Cyngor y Ddinas sydd berchen yr adeilad ond ymddengys bellach nad ydynt yn fodlon efo'r cynlluniau arfaethedig.

Chwarddodd Dan yntau wedi iddo ddarllen yr hysbysiad: 'Drwy i ddwr dorri i mewn a difetha'r stoc o bapur yn y seler, nid ymddengys Yr Utgorn yr wythnos hon.

Ymddengys mai'r dull lleiaf trafferthus i'r ysgolion gael gafael ar adnoddau yw drwy eu prynu yn lleol o lyfrwethwr.

Prun bynnag am hynny, fe ymddengys i mi fod THP-W yng nghlo'r soned 'Dychwelyd' yn son am rywbeth tebyg iawn i Nirvana'r dwyreinwyr, sef math o anfodaeth na ellir ei amgyffred mewn unrhyw dermau daearol.

Ymddengys iddo weld gweledigaeth ar y ffordd ger Bryn'refail, yn ei gymell i fynd i'r Garn a darllen.

Yr un fwyaf egr lC amrwd ei bygythiad a'i hanogaeth ydyw Ltais y Priodfab Howell Davies, lle traethir yn ebydllon am of nadwyaeth uœern, ac yna am erfyniad y Mab am le yn y galon; ond mewn print, ymddengys ei dannod a'i dyhead yn hynod denau.' O'u cym~ru ~ hon, mor aeddfed, mor rhesymegol, mor flasus ydyw pregethau Rowland !

Yn y paragraff cyntaf y maer pwyslais ar gyflwr amddifad y tad, ac ymddengys ei alar yn ddiderfyn ('i boen mwy ...

Pan aeth y Cymry ati i ailddarganfod y Groegiaid, ymddengys iddynt adael hyn oll o'r neilltu gan amlaf, a cheisio gweld gwrthrychau eu hastudiaeth fel dynion meidrol, ac yn wir fel dynion tebyg i'r Cymry eu hunain ar lawer agwedd.

Rhai blynyddoedd yn ol, archwiliwyd y cirysau ochrol blaen yn y miscrosgop electron ac ymddengys bod pob cirws yn tarddu o un gell, a'i fod yn cynnwys dwy res gyfochrog o silia.

Yn wir, ymddengys y defnyddir mwyfwy o bapur yn sgîl dyfodiad Technoleg Wybodaeth, a hynny'n aml yn bapur ffres.

Ond ymddengys y gallai ymdawelu wrth gyfeirio'n unig at warth fel posibilrwydd ar orwel pell.

Ymddengys bod diddordeb cynyddol heddiw yn y paranormal a'r byd seicig, ac yn arbennig ymhlith yr ifanc.

Ymddengys fod y berthynas rhwng y ddeuddyn yn cael ei chydnabod fel priodas ddilys gan y gymdeithas o'u cwmpas.

Ymddengys y wybodaeth a geir o astudio llongddrylliadau hanesyddol a safleoedd dan y môr yn ddigon pitw o'i chymharu â'r adnoddau hyn, ond er hynny y mae iddi bosibiliadau mawr.

Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.

Ymddengys mai dim ond un darn o ffilm o Meredith yn chwarae sydd mewn bodolaeth a dangoswyd yr un darn hwnnw ddwywaith.

Ond fel pob gwleidydd da, ymddengys bod Jane wedi llunio rheolau cyfansoddiadol go bendant ar gyfer y digwyddiad.

Ymddengys i ni y buasai unrhyw weinidog yn y wlad hon a ymddygai fel y gwnâi Mr Jones yn rhwym o osod ei hun yn agored i ddisgyblaeth lem.

Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.

Dichon fod y diddordeb hwnnw fel yr ymddengys yn nhrafodaethau'r cylchgronau ar hyd y ganrif yn edrych yn ffansi%ol ac anwyddonol a hyd yn oed yn ffôl i'r sawl a ddisgynnodd o dan gysgod John Morris Jones.

Ymddengys fod D.

Ymddengys fod y ddwy Almaen wedi tyfu ar wahân i'r fath raddau nad oes modd datblygu perthynas ddiduedd, agored rhwng dinasyddion y ddwy.

Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.

Ymddengys y blodau'n wynion o hirbell and o graffu ar y petalau bregus gwelwn wawr binc iddynt.

Ymddengys bod cysylltiad agos iawn rhwng y Dr John Davies a'r Esgob William Morgan, ac na fu'r ddau ymhell oddi wrth ei gilydd o gwbl.

I'r mwyafrif o bobl, rwy'n siŵr mai braidd yn sych yr ymddengys llawer o'r llenyddiaeth uchod (er fod enwau hir a phert yr anifeiliaid yn gallu bod yn hwyl), ond i'r sawl sydd a gwir ddiddordeb mae pori rhwng cloriau'r cyhoeddiadau hyn yn dod ag oriau o bleser amheuthun, er efallai mai ansylweddol yw eu ffurf.

Ymddengys y gellid dehongli symudiadau llyswennod a drigai yn nþr y ffynnon er mwyn proffwydo ynglŷn â materion serch.

Yn ogystal â datblygu'i sgiliau milwrol, fe ymddengys fod Siôn yn ymbaratoi i ddilyn ei dad fel bardd, yn canu i gynulleidfa ac yn derbyn gwobr (fel y byddai'r bardd yn derbyn tâl) am ddynwared llef ci hela ('þo').

Ymddengys felly fod angen dylanwadu ar agweddau ac arferion pobl tuag at ddefnyddio'r iaith Gymraeg, er mwyn eu hannog i wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd, neu a fydd, ar gael iddynt.

Ymddengys ei bod hithau, fel pawb ohonom, yn magu cymeriad wrth fynd gyda'n gilydd trwy Ddyffryn Baca.

Mae BBC Radio Cymru wedi parhau i adfywio rhaglenni, gyda chymorth strategaeth farchnata fywiog yn seiliedig ar ystod o ddigwyddiadau a chyngherddau awyr agored yr ymddengys eu bod wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Ni fynnai ef, fe ymddengys, fod ynryw ddyled ar Ddafydd i'r Trwbadwriaid: yn hytrach yr oedd ei brif ddyled i'r traddodiad barddol brodorol, i draddodiad barddol 'gwerinaidd' y 'bardd teulu'.

Ymddengys i mi ein bod yn closio at hen sefyllfa lle mai 'Gwannaf Gwaedded, Trechaf Treisied' oedd y norm.

Nid ar gyfer yr offeiriaid yn unig y copi%wyd y rhain; ymddengys fod cryn ddiddordeb ynddynt ymhlith gwyr a gwragedd lleyg yn ogystal.

Yn wir ymddengys fel pe bai rhywun wedi hollti'r graig â bwyell.

Ymddengys fod Rhys frawd Hopcyn, yntau, yn noddi copio a chyfieithu llawysgrifau.

Ond ymddengys nad felly y bu.

Ni sonnir amdano yn chwedl Culhwch ac Olwen ac ym Mrut Sieffre o Fynwy yr ymddengys gyntaf yng nghymeriad y bradwr a dwyllodd Arthur gan ddwyn dinistr ar y deyrnas.

Ymddengys iddo or-ymgyfeilachu â'r carn-gynllwynwr hwnnw.

Gwrthododd Cyngor Tref Blaenau â derbyn y cymal yma ac felly mae'r Gadair yn gogrdro rhwng cylch bach o Gynghorwyr, ac ymddengys fod y cylch yma yn mynd yn llai ac yn llai.

Nid oedd hynny, mi ymddengys, yn ddigon i rai.

Yr adeg o'r flwyddyn, pan ymddengys fel petai'r afon yn troi'n ôl ar ei hub, dyma achlysur yr þyl enwog, La Fete des Eaux, (Gþyl y Dyfroedd), pan fydd pawb mewn hwyliau da'n dathlu'r cynhaeaf a'r cyflawnder o bysgod.

Ymddengys fod Llyn Frogwy, i'r gogledd o Fodffordd, yn bwll afon a gaewyd ac a ehangwyd er mwyn creu blaenddwr ar gyfer Melin Frogwy.

Yn ddiweddar, fodd bynnag, ymddengys fod newid ar dro ac mae llawer o'r bobl ifainc eisiau aros yn eu cymdeithas.

Ymddengys na fun benderfyniad doeth.

Ymddengys iddo ddod i gyffiniau Llanelwy pan symudodd yr Esgob Morgan yno.

Mae'n debyg mai oherwydd ei hamlygrwydd fel cennad tymor y tyfiant yr enwyd cynifer o blanhigion ar ei hol, rhai sy'n blodeuo tua'r un pryd ag yr ymddengys hithau'n lledrithiol yn ein mysg.

Ond ymddengys mai'r gerdd gynharaf sydd gennym i un o noddwyr y sir yw'r awdl farwnad a ganodd Casnodyn ei hun i Fadog Fychan o'r Goetref, yn Llangynwyd.

Ef ei hunan a fyddai'n adrodd am y galanastrau hyn yn ei ymwneud â'r iaith fain, ac ymddengys iddo gael cryn drafferth yn ei chylch o'i ddyddiau cynnar yn ysgol Llanystumdwy.

Ymddengys i Thomas Jones lunio cynllun cadoediad, lle byddai'r ddau drên a gyrhaeddodd nos Iau yn cael mynd trwy'r groesfan, pe byddai'r milwyr yn cilio i'r orsaf am bymtheng munud.

Ymddengys mai dysgeidiaeth i'w chredu oedd Cristionogaeth, a deddf i'w chadw.

Pan yn ifanc, ac adre am dro, ymddengys iddo fod yn barod iawn ei gymwynas; yn helpu cymydog i dynnu draenen o droed y fuwch; i fodrwyo'r hwch, neu dorri'r gaseg i mewn.

Ymddengys i mi mai rhyw angen seicolegol ynddo oedd hyn, rhyw nodwedd ar ei bersonoliaeth.

Ymddengys ar yr olwg gyntaf fod y Parchedig Owen Jones, un o bileri'r achos Methodistaidd, wedi cynnwys yr hanes yn 'Y Mynach Anllad' yn ei gasgliad diddorol Ceinion Llenyddiaeth Gymraeg fel traethiad gwrthbabyddol.

Ymddengys bod y pêl-droediwr Frank Lampard Junior ar fin symud o un pen o Lundain i'r llall - o Barc Upton i Stamford Bridge.

Ymddengys mai bwriad diweddaraf y llywodraeth yw ei gwneud hi'n anos inni gael meddyg ganol nos.

Ymddengys y gallai hyn ddigwydd yn erbyn dymuniadau aelodau eraill y gymuned, gan gynnwys rhieni plant a fyddai'n debyg o gyrraedd yr ysgol yn y blynyddoedd i ddod.

Ac efallai oherwydd hyn, ymddengys mai tuedd oedd i'r rhan fwyaf o aelodau ifanc y Gymdeithas symud i ffwrdd nid yn unig o weithredu fel ffordd o gadarnhau eu cefnogaeth i frwydr yr iaith ond i ymbellhau oddi wrth y mudiad ei hun wrth iddynt ymbarchuso.

Ymddengys nad oes problem letya yn yr ardal.

Ymddengys i'r agwedd hon dynnu eu sylw oddi ar arwyddocâd marwolaeth Crist.

Gwelsom fod traddodiad eglwysig cynnar yn cofio am Arthur fel amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol, ond ymddengys fod hynny wedi ei roi heibio erbyn cyfnod y Bucheddau.

Ymddengys mai yn America yn unig y mae'r iguana i'w gael.

Ymddengys fod Wil y gwas bach wedi hen flino ar ddilyn yr injan lladd gwair o gwmpas y cae ar ddiwrnod poeth o haf ac iddo achwyn ar ei fyd.

Ymddengys fod un enw arall yn Llechylched sy'n cyfeirio'n benodol at lwybr Afon Caradog.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

Mae dau swyddog llawn amser yn gweithio o'r Brif Swyddfa yn Aberystwyth sef y Swyddog Gweinyddol (Dafydd) a'r swyddog Ymgyrchoedd (Charlie). Ymddengys y bydd y Swyddog Maes (Meirion ) yn gweithio i ni am gyfnod o'r Swyddfa hon hefyd.

Ymddengys yntau yn hen hogyn iawn ar y cychwyn cyntaf.

Mae rhywun wedi ymosod arno ac ymddengys ei fod mewn cryn boen.

Ymddengys mai gyda 'llywydd y Gymdeithas' y dylid cymryd 'er ei dechreuad', nid gyda 'llyfrau cofnodion', oblegid fel y tystiolaetha T.

Yn sicr, fe ymddengys fod y bwci'n gwybod ei ffordd gan ei fod yn torri drwy'r goedwig yn hyderus iawn gan droi o'r naill lwybr i'r llall heb oedi eiliad i ystyried a yw e'n dilyn yr un cywir.