Nodweddir llawer o'u canu hwy gan yr ysgafnder a berthynai i'r traddodiad gwledig fel y'i ceir yn y penillion pyncio a'r cerddi ymddiddan.
Daeth yntau yno, dyn bychan, bywiog, yn gwisgo sbectol drom, a chanddo farf frown dywyll o gylch ei wyneb, ac yn gwenu'n siriol wrth ymddiddan â Mam.
Ar ôl bwyta dyma'r dynion yn dechrau casglu at y brake yn araf, ac eraill yn gwylio i edrych pa faint oedd yn cyrchu at fan y cyfarfod, a phwy oeddynt, rhai yn ymddiddan â'i gilydd, eraill yn edrych yn syn, ac eraill â'u golwg ar y brodyr yr oeddynt wedi clywed eu bod ymhlith y rhai fu'n gweddio yn Nant.
Dal i ymateb i'r ornest a wneir yn y penodau sy'n dilyn, yn gyntaf trwy'r ymddiddan digrif rhwng yr Yswain a'r Person - er na chuddir pechodau y naill na'r llall, cyflwynir portreadau digon cydymdeimladol o'r ddau hyn - yna yn yr ymryson bywiog pan yw Gwen yn ceisio dysgu pader i'r Person.
Byddai'r rhain yn gwahaniaethu o fro i fro neu'n newid o dymor i dymor, ac yn peri hwyl neu siom, ac felly yn mynd yn ddeunydd cof ac ymddiddan.