Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymddiddori

ymddiddori

Y drwg mwya oedd fod Malcym erbyn hyn wedi dechra ymddiddori rhyw gymaint yn ei waith.

yn naturiol ddigon, yr oedd david hughes yn ymddiddori yn y dechnoleg newydd, a'i freuddwyd oedd dyfeisio telegraff a fyddai'n argraffu negeseuon yn uniongyrchol ar ffurf llythrennau.

Yn amlwg, mae yna reswm pam fy mod i wedi dechrau ymddiddori, a bron na fyddwn i'n dweud mai cerddoriaeth ddawns sy'n gyfrifol am hynny.

Y mae cyhoeddi'r gyfrol ddeniadaol hon yn ddigwyddiad o bwys mawr i'r rheini sy'n ymddiddori yn nhestun Lladin Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy.

Ar y gorau, rhai miloedd yn unig o bobl a oedd yn ymddiddori yn ei hynt.

Ar ôl trydan dyma roi'r gorau'n llwyr i ymddiddori mewn natur.

Efallai taw wrth ddarllen a golygu'r emynau a gadwyd (ac a wrthodwyd) yma y dechreuodd ymddiddori yn yr emyn Cymraeg.

Serch hynny, mae pob stori yn unigryw a difyr, a gyda phrin cant o dudalennau mae'r gyfrol yma yn un wnaiff diddanu unrhyw un sy'n ymddiddori mewn gweld cyfiawnder yn cael ei gloriannu.

Ai dyma'r ffordd i ddenu'r di- Gymraeg i ddysgu'r iaith ac i ymddiddori yn ein diwylliant?

Daethpwyd i ymddiddori yn y gorffennol er ei fwyn ei hun, daethpwyd i astudio dogfennau, daethpwyd i grynhoi 'ffeithiau', ac i ddilorni cynlluniau dwyfol a chwedlau dynol.

Mae Audrey yn aelod o gangen Llangefni o'r mudiad ac yn ymddiddori yn y gweithgareddau ers pum mlynedd.

Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".

Nid yw'r arlunydd fel petai'n ymddiddori dim ynddo ef ei hun ac eto mae'n cyfleu rhywbeth o'i gymeriad.

Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).

Mae'n hwylus i bawb ohonom sy'n ymddiddori yn hanes Cymru ac yn gymwynas arbennig â'r sawl nad ydynt o fewn cyrraedd y cylchgronau dysgedig lle cyhoeddwyd hwy gyntaf.

Fe ddichon ei fod ef, fel William Salesbury o'i flaen, wedi ymddiddori yn y llenyddiaeth grefyddol Gymraeg (cyfieithiadau gan mwyaf o'r Lladin) a gafwyd yn sgîl deffroad y drydedd ganrif ar ddeg (gw.

Bu Zbyszko ar y cwrs Rheolaeth Cefn Gwlad yn y Coleg Normal tan yn ddiweddar, ac yn ymddiddori'n fawr mewn llên gwerin.

Byddaf yn gweld rhai o'r cyn-fyfyrwyr pan ddônt ar eu gwyliau, a gwelaf eraill wrth eu gwaith, rhai fel Arfon Huws, sydd yn ymddiddori mewn barddoniaeth erbyn hyn, y ddau Ieuan o Fynytho, Gwynfor Mynytho a Gwynfor Abersoch, Brian Llangian, ac amryw eraill.

Wedi'r ymweliad a'i thŷ breuddwydiasai'i bod hi'n ymddiddori ynddo ac y gallai hynny fod o fudd iddo.

'Rydw i wrth fy modd yn gweld pobl ifanc yn ymddiddori mewn hanes lleol,' meddai Mr Puw, 'ac yn falch o gael helpu Ysgol Penmorfa.

Ceisiwch gynnwys eich teulu/ ffrindiau yn eich cynllun cynnal pwysau a gofynnwch iddynt i ymddiddori yn eich llwyddiant.

Fel ei dad, roedd Arthur yntau yn ymddiddori mewn barddoni, yn canu'r ffidil, ac yn llanc diwylliedig iawn.