Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.
Yn aml, bardd crwydrol yw ef - fel y bu Waldo am lawer o'i oes (gan ymdebygu ar lawer cyfrif i Ieuan Brydydd Hir), - a'i gyfeillion yn niferus ac yn wasgaredig.
Ond, yn lle arbrofi gyda gwahanol fodelau o gydweithio yn ôl amgylchiadau lleol mae'r Awdurdod wedi penderfynu ymlaen llaw fabwysiadu un model yn unig a elwir yn 'ffederasiynau' h.y. cysylltiad ffurfiol rhwng cylch o ysgolion o dan un pennaeth sy'n ymdebygu i un ysgol aml-safle.
Mae hi'n amlwg fod Gwacamoli wedi cymryd sylw o boblogrwydd Mary Jane oddi ar yr EP ddiwethaf, gan fod hon yn ymdebygu o ran naws.
Trwy ymdebygu i'w 'gwell' yr oedd profi eu gallu, nid trwy lenydda'n 'wreiddiol' neu'n feiddgar am brofiadau'r gweithwyr," meddai.
Ymdebygai i'r rheiny yn yr un modd ag y mae pobl a welwch am y tro cyntaf yn ymdebygu i'w lluniau.
Ond rhaid cofio mai dau episod ar y mwyaf sydd yn Ystorya Trystan, ac nid yw'r naill na'r llall yn ymdebygu ryw lawer i'r hyn a geir mewn unrhyw destun Ffrangeg.