Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymdeimlo

ymdeimlo

Roedd yn ymdeimlo â'r grym mewn golygfa ac yn cyfleu hynny, yn ei weithiau aeddfed, gydag eiddgarwch disgybledig.

Rhyw ystum i gyfeiriad moderniaeth yw'r rhain oll, yn ymdeimlo a'r angen am dorri allan a chreu rhywbeth newydd, ac eto'n anabl i wneud hynny.

Ac am ei bod hi'n ynys ym môr y gorllewin, yr oedd Iwerddon wedi cadw mwy o'i nodweddion cenedlaethol, ac fe allai Waldo ymdeimlo, ac ymglywed, â'i hen hanes a'i chwedloniaeth gyfoethog, wrth deithio drwyddi ar gefn ei feic.

Ac fel y pwysleisiodd Mr Dafydd Glyn Jones mae doniolwch yn elfen y dylid ymdeimlo a hi'n gyson yn y llyfr.

Gallai'r tyddynnwr o Slaf ymdeimlo â natur byw a bod yr un mor ddwfn â rhyw Voltaire soffistigedig.

Bydd y dolennau heyrn yn seimlyd a thwym gan wres yr anifail, a byddwch yn ymdeimlo â meddalwch cynnes pêr ei gnawd wrth i chwi ymestyn i fachu'r aerwy ar yr hoelen yn y buddel.

Er hyn, yr oedd y dyneiddwyr yn sicr yn ymdeimlo â bygythiad, ac yn wyneb hynny, yr oedd angen pwysleisio fwyfwy ogoniannau'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Brytanaidd, ynghyd, wrth gwrs, a lladd ar y rhai oedd yn bradychu'r gogoniannau hyn drwy eu 'gollwng dros gof', a defnyddio ymadrodd Gruffydd Robert.

Diau fod agwedd y bardd yn sylfaenol wrywaidd wrth weld ei fab yn ymgorfforiad ohono'i hun, ond gellir ymdeimlo â rhyw dynerwch benywaidd yma hefyd.

Camp fawr y cofiant hwn yw peri i ni, ddarllenwyr, rannu peth o'r boen ac ymdeimlo â'r dirgelwch.