Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymdoddi

ymdoddi

Daeth ugain o gynrychiolwyr o ganghennau CYD a Merched y Wawr at ei gilydd i dysgu am weithgareddau newydd i gynorthwyo dysgwyr i ymdoddi i'r gymdeithas Gymraeg.

Plygodd y bachgen i lawr unwaith eto, a phan oedd y belen eira yn dechrau ymdoddi yng ngwres ei ddwylo, anelodd hi at ben un o'r milwyr.

Yr iâr yn unig sy'n eistedd ar yr wyau gan fod ei lliw brown tywyll yn ei galluogi i ymdoddi'n rhwydd i'r cefndir grugog, ond byddai'r ceiliog, gyda'i blu llwyd yn sicr o dynnu sylw at safle'r nyth.

Yng nghysgod coedwig fawr mae nifer o adeiladau pren wedi eu codi sy'n ymdoddi'n llwyr i gefndir y ddaear o'u cwmpas.

Ond mwy real iddo ef, ac i'r dyneiddwyr eraill, na'r bygythiad gwleidyddol eang a gai fynegiant yn y syniad o ymdoddi ieithyddol llwyr, yw'r difrawder a'r troi cefn a welent ymhlith unigolion, y man foneddigion yn arbennig.

Mae'r ffwlerenau yn ymdoddi'n hawdd mewn hylifau fel bensen a hecsan i gynhyrchu toddiant lliw coch.

Mae'n berwi ar dymheredd uchel iawn, mae ei gynhwysedd gwres ymdoddi a'i gynhwysedd gwres anweddu yn uchel iawn, a hefyd ei gysonyn deuelectrig.

Mae ei phrif sianel yn glynu'n glos wrth lan orllewinol yr aber, ac ar ôl iddi fynd heibio i Ddinas Llwyd mae'n ymdoddi i'r môr ym Mae Malltraeth

Mae hefyd yn dangos yn eglur greddfau naturiol yr artist yn Judith - yr angen i ddehongli pethau yn eu ffurfiau mwyaf elfennol, i ymdoddi i mewn i fyd natur yn hytrach na'i orchfygu, ac i gario synnwyr o sensitifrwydd ar bob achlysur.

Mae'n anodd eu gweld nhw am fod eu cotiau meddal lliw hufen yn ymdoddi i'r cefndir gwyn.