Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymdopi

ymdopi

Roedd pethau'n ymddangos mor eglur yn Rostock: roedd cymdeithas lle roedd y rhan fwyaf yn ddi-waith am y tro cyntaf erioed wedi gorfod ymdopi â llifeiriant o ffoaduriaid, y rhan fwyaf ohonynt yn sipsiwn.

Yn Bouncing Back, gofynnwyd iddynt sut y buont yn ymdopi unwaith i'r straeon ddiflannu o'r penawdau.

Ac am y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wel, meddyliwch am Mari Lewis yn ceisio byw gydag ef: o'i gymharu â'i dri aderyn ef yr oedd darllen Pererin Bunyan fel ymdopi â'r ABC.

Euros: yn ymdopi yn dda.

Prin y gallodd ei gorff bregus ymdopi â mân weithgareddau'r ogof erbyn hyn.

Bydd sawl sy' gosod y socedi i chi hefyd yn gosod uned fflachio newydd ar gyfer y goleuadau troi gan nad yw'r un gwreiddiol mewn car yn ddigon pwerus i ymdopi a'r garafan yn ogystal.

Mae'r sgiliau cyfathrebu a'r sgiliau ymdopi sydd eu hangen ar gyfer byw bob dydd yn aml yn llai i ddefnyddwyr oedrannus y gwasanaeth, neu bobl sydd wedi treulio amser mewn ysbyty.

Clywodd y gwrandawyr sut mae boneddigion Cymru'n ymdopi â bywyd yn yr 20fed ganrif yn Fine Families.

Yn y gorffennol, mae camargraff wedi ei greu fod y môr yn gallu ymdopi ag unrhyw faint o lygredd.

Bellach i'r naill awdur fel y llall, os mewn dulliau gwahanol i'w gilydd, y mae seiliau'r gymdeithas yn gwegian, ac mae'r pwyslais wedi symud oddi wrth natur yr hen gymdeithas at broblemau'r unigolyn o fewn y gymdeithas mewydd symudol ac ansicr, ac oddi wrth ddigwyddiadau allanol dwys neu ddigri at gymhellion mewnol unigolion yn ceisio ymdopi â bywyd.