Diflannodd bron y cyfan o'r allanolion a'r digwyddiadau ategol arferol- diflannodd pob cymeriad arall am y rhan orau o'r hanes ond Sam ei hun a'r bodau lledrithiol y bu gyda hwynt Llwythir a gyrrir yr hanes â delwedd ar ôl delwedd, llun ar ôl llun, dyfalu ar ôl dyfalu, fel petai Tegla am gyrraedd pinaclau y profiadau mwyaf amhosibl eu dweud ac yn methu â theimlo ei fod yn ymdrechu digon.
Mae pobl yn gofyn yn aml iawn, "Pam 'r ydych wedi ymdrechu mor galed i roi bywyd a gwedd newydd Lanaelhaearn?" Credaf y gallaf roi crynodeb mewn dau baragraff fel ateb i hyn.
Rhaid croesi Bwlch Maloggia (Maloja) dros ugain milltir i ffwrdd ym mhen uchaf y dyffryn, i gyrraedd Chiavenna a Milan ond nid yw'r ffordd fawr yn gorfod ymdrechu yr ochr yma i'r bwlch hwnnw, dim ond dilyn cwrs Afon En (yr Inn yn Awstria) ar ei thaith dros y dolydd eang ac, yn agosach i'w tharddiad, trwy gyfres o lynnau mawr heb eu hafal.
Mae'r busnes wedi ymdrechu'n galed i wella'i wasanaeth i gwsmeriaid a bu'n canolbwyntio ar wella prosesau yn ogystal â'r amgylchedd y mae ein cwsmeriaid yn gweithredu ynddo.
Does 'mo'r fath beth a hunan-leiddiad yn bod, wrth natur - amgylchiadau a digwyddiadau sy'n gyrru pobl i wneud peth felly." "Rwy'n siarad am actores oedd yn ei chael hi'n rhy rhwydd i fyw rhannau dramatig a apeliai i'w dychymyg, yn hytrach nag ymdrechu i wneud rhywbeth o'i bywyd ei hun." "Ac rwy i'n son am ddigwyddiadau a'u canlyniadau.
Mae Plaid Cymru yn ymdrechu'n galed i fachu ei lle wrth y bwrdd mawr newydd yn y gobaith y bydd hwnnw'n Ewropeaidd ei natur.
Dechrau, yn unig, oedd affidafid Carol Hogan, ar fisoedd lawer o ymdrechu caled a chyfnodau o rwystredigaeth flin.
Bu ei syniadau yn symbyliad i'r llu o wladgarwyr a droai yn ôl at ddiwylliannau gwerinol, gan ymdrechu i'w hachub rhag mynd yn angof llwyr.
Fe fydd rhaid ymdrechu ymdrech galed i gyflawni'r agenda syml 'da ni wedi'i osod i ni'n hunain -- wn i ddim ydych chi am ei galw hi yn frwydr ai peidio, ond fe fydd rhaid gwneud y gwaith beth bynnag da chi am ei alw fo.
Os mai du oedd iard yr ysgol, glas oedd yr awyr o gwmpas, a byddai angen llond tram o 'bleeps' i hyd yn oed ymdrechu cyfleu adwaith y gwerthwr glo i'r rhaffo disymwyth.
Er hynny, fe'i gorfodwyd gan y gwahaniaeth poenus rhwng ei dull hi o waith a'i ffordd yntau i ymdrechu'n anfodlon i ymddiheuro.
Tra bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ymdrechu i ateb ein gofynion, ni allant ddarparu lle oherwydd y cwtogi ariannol.
Mae'r ymennydd bob amser yn ymdrechu i gadw gwres mewnol y corff y tu mewn i derfynau cyfyng drwy agor neu gau capilari%au'r croen fel y bo angen.
Yn anffodus, fel y gwyddom, nid dyna ydi realiti yn ein hysgolion, gydag athrawon yn gorfod ymdrechu a brwydro o dan amgylchiadau anodd a di-gefnogaeth.
Cawn ei gweld yn symud i'r ardal i briodi, yn dechrau magu plant, ac yn ymdrechu i gael y ddau ben llinyn ynghyd, cyn i'r ffocws symud yn raddol at Owen.
Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.
Yn awr fod merched yn pasion well na bechgyn yr esboniad syn cael ei gynnig ydi, nad yw bechgyn yn ymdrechu mor galed ag oedden nhw.
Edmygwyd ei ddewrder a'i egwyddorion, ond wedi pum mlynedd o bregethu ac ymdrechu i fugeilio'i braidd, penderfynodd y byddai'n well symud.
Melltithiodd ei gloffni ac ymdrechu i gyflymu ei gam heb ollwng ei afael ar y cwdyn.
Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.
Y mae'n iawn ymdrechu tra galler dros gynnal yr iaith Gymraeg yn iaith lafar ac yn iaith lên oblegid mai felly'n unig yn y darn daear hwn y gellir parchu'r ddynoliaeth a fagwyd arno ac y sydd eto'n ei arddel.
Weles i mo'n chwaraewyr ni erioed mor sharp ar ddiwedd tymor.' --Nid datganiad y bydde'r blaenwyr yn ceisio neu'n ymdrechu gwneud, ond datganiad y bydden nhw yn dal eu sgrym.
Mae pob mudiad ymgyrchu sy'n ymdrechu i sicrhau newidiadau cymdeithasol o bwys yn gaeth i'w fytholeg arwrol ei hun i ryw raddau: canmolir yr arloeswyr, mawrygir y merthyron, a dethlir yr uchafbwyntiau a'r llwyddiannau.