Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymdriniaeth

ymdriniaeth

Nid crynhoi nac adolygu ymdriniaeth JR yw f'amcan yma ond ceisio chwanegu rhywfaint bach ati.

Gan yr Athro Alun Llywelyn Williams (heblaw am draethawd Mrs Hughes ac un ysgrif yr un gan Syr Thomas Parry Williams a Dr Pennar Davies) y cafwyd yr ymdriniaeth fwyfaf gofalus o 'Sonedau y Nos'.

Mae ymdriniaeth yr awdures o'r pynciau hyn yn ddigon celfydd.

Yr hyn sy'n siomedig braidd ynglŷn â'r adroddiad yw ei ymdriniaeth, neu'n hytrach ei ddiffyg ymdriniaeth, â chwestiwn Senedd i Gymru.

Fel y dywed yr Athro, mae'n syndod na chafwyd ymdriniaeth lawn cyn hyn ar yrfa Henry de Gower.

Yr hyn sydd yn drawiadol yn yr ymdriniaeth yw fod Theophilus yn ymgysylltu â chymaint o Ymneilltuwyr a Methodistiaid ar hyd ei oes, er ei fod mor enwog fel gelyn anghymodlon iddynt.

Wrth gyrraedd y Plas mae yna sgwrs rhwng y perchennog a'r ddwy ymwelydd sy'n rhoi ymdriniaeth ysgafn o'r dryswch mae'r ddwy dafodiaith yn gallu ei greu.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Y tu ôl i'r ymdriniaeth â sefyllfa deuluol y Gŵr a'i ferched y mae gweledigaeth dreiddgar debyg i'r hyn a welid yn gweithio yn nofelau Zola, neu'r brodyr Goncourt.

Mae yma ymdriniaeth â llawer o bynciau mewn cwmpas byr, â gwaith Theophilus fel awdur a chyfieithydd, â'i ddawn fel chwedleuwr difyr a hoffus, â'i gredoau a'i weithgarwch fel eglwyswr, ac â'i wladgarwch Cymreig a Phrydeinig.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Ymdriniaeth ddadlennol â chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes y Tuduriaid.

Fel mae'n digwydd, mae'r Cor Meibion yr wyf yn aelod ohono, sef Cor Bro Glyndŵr (er mwyn y troednodwyr), yn canu gosodiad Bryceson Treharne o soned 'Dychwelyd' TH P-W; gosodiad teilwng, greda i, sydd yn llwyddo i danlinellu grym y soned ac i gyfleu dehongliad cerddorol o un JR ar ddiwedd ei ymdriniaeth.

Gan mai ychydig o sylw, a hwnnw'n aml yn ddirmygus, a roddodd y cyfryngau cyfathrebu i ymdrechion heddychwyr, y mae'n hynod werthfawr cael ymdriniaeth feistraidd fel hon.

Am ymdriniaeth lawnach o'r sefyllfa, cysylltwch â'r Swyddfa i dderbyn copi o ddogfen y Gymdeithas 2000: Her i Ysgolion Gwledig.

Dylid cael ymdriniaeth ysgol-gyfan o AAA.

Yn wyneb yr ymosod a fu ar ymdriniaeth Ffowc Elis â chenedlaetholdeb yn ei lenyddiaeth dyma Derec Llwyd Morgan yn achub ei gam.

Mae'n wir dweud fod yna nifer o wahanol elfennau wedi'u hymgorffori yn eu cerddoriaeth - acid house, hip hop, reggae, dub, rap a chryn ymdriniaeth ar rhythmau Affricanaidd.

Ar ol yr ymdriniaeth hon o ofynion y toddiant sy'n addas i gynnal bywyd, cesglir mai dwr yw'r unig bosibilrwydd ac mai amgylcheddoedd tebyg i'r system garbon dwr y dylid eu hystyried, sef amgylcheddoedd tebyg i'n Daear ni.

Ni ellir felly sicrhau dyfodol y Gymraeg mewn gwagle: rhaid wrth ymdriniaeth fydd yn creu'r amodau cymdeithasol ac economaidd cywir, a hynny yng nghyd-destun cymunedau cryf. 02.

Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.

Mae Emrys Roberts yn fardd ac yn awdur adbanyddus a'i ymdriniaeth o'r Gymraeg yn dangos hynny.