Ymdroi tipyn yn Rhyd y Ddeuddwr ac wrth odre Castell Rhuddlan.
O ymdroi â llenyddiaeth Gymraeg yn ei chyfnodau euraid, adnabu ei gwir deithi.
Wel wrth gwrs da' chi'n gorfod cofio mai Sais Gymry oedd fy rhieni i ynte a phan symudodd fy nheulu o Gaerdydd, wel Morgannwg, i Gaergybi roedd fy nhad yn swyddog ar y llongau ac roedden ni yn ymdroi ymhlith y Saeson neu'r Sais Gymry ynte.
Digon rhesymol gwneud esgus i ymdroi o gwmpas Crud y Gwynt am ryw hanner awr ychwanegol, ond wedyn byddai'n rhaid iddi gerdded yn ôl ac ymlaen ar hyd y ffordd i aros amdano.
Dyma lle yr oeddynt hwy a'u teuluoedd yn preswylio - yn byw yn foethus yng nghanol eu llawnder - yn ymdroi mewn porffor a lliain main ac yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd eu plantations ar y dyffryn, neu hwyrach tua glannau y Mississippi, yn cael eu gweithio ymlaen gan eu niggers, ac overseers uwch eu pennau.
Ar y llaw arall cytunir mai gwerin amaethyddol fu'n trigiannu yma ers cantoedd, a honno yn ymdroi yn niwydiant hynaf dynolryw, ac yn gofyn am gynhorthwy crefft a dawn.
Daeth Hugh Rawlins a Thomas Lee â'r cyhuddiad yn ei erbyn ei fod wedi ymdroi tan fis Ebrill cyn dod, "to the great disorder of the King's majesty's subjects, lack of reformation, and ministration of justice." Ond atebodd Ferrar nad arno ef oedd y bai am hynny oherwydd yr oedd ei ddyletswydd i'r brenin yn golygu fod yn rhaid iddo fod yn bresennol yn y senedd yn Llundain.