Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymdrybaeddu

ymdrybaeddu

Dychwelant atynt byth a beunydd i ymdrybaeddu yn nirywiad ein diwylliant.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

A gadael i ti ymdrybaeddu mewn euogrwydd di-sail?" "Dyna ddigon." "Nage, wir.

`O, na,' meddai Gunnar wrth i saith o bobl ymdrybaeddu yn y dŵr oer.

Ar hynny hyrddiodd ei hun arnaf fel ci a'r ennyd nesaf roedden ni'n dau yn ymdrybaeddu yn llwch yr iard, fy llaw dde fel crafanc yn tynnu yn ei wallt, a'i fysedd yntau'n bodio fy llygaid, a chledr ei law yn taro a phwyso nes bod y gwaed yn chwythu allan o'm trwyn.