Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymerodrol

ymerodrol

Y mae hon yn enghraifft gynnar iawn o'r meddwl ymerodrol ar waith ac o'r ffordd y mae Cymru a'r Alban yn anweledig i'r bardd.

Ystyrid yr iaith ymerodrol fel un a oedd yn rhagori ar yr ieithoedd lleiafrif.

'Roedd Cymru yn Gymry frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diwedd y ganrif flaenorol a degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.

O dan bwysau enfawr y gallu ymerodrol, daeth y Cymry eu hunain i gredu nad oedd werth yn y Gymraeg.

Roeddynt am ddod yn eu blaenau yn y byd mawr ar adeg pan oedd y Saeson, a oedd yn flaenllaw iawn yn y byd hwnnw, ym mhenllanw eu grym ymerodrol.

Arweiniodd y cymhelliad olaf hwn at dueddiad cryf i esgusodi Pilat, y procwrator ymerodrol, ac i roi'r bai am y croeshoeliad ar yr Iddewon.

Mewn trefn wir gyd-genedlaethol ni rennid y byd rhwng ychydig o wladwriaethau ymerodrol a militaraidd; fe'i seilid ar gannoedd o gymdeithasau cenedlaethol a ildiai eu sofraniaeth i drefn fyd-eang.

Ond buan iawn yr oeddent yn mynd gam ymhellach ac yn defnyddio'r iaith ymerodrol fel cyfrwng i danseilio'r diwylliant lleiafrif.