Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymesgusodi

ymesgusodi

Ond wedi rhai munudau o dawedogrwydd a golwg anesmwyth ar y ddau, ceisiodd Dilys ymesgusodi am ei hymarweddiad.

Clywir rhai o'r dosbarth hwn yn ymesgusodi weithiau trwy ddweud eu bod wedi arfer gwneud, ac mai peth anodd yw newid hen arfer.

Galwai laweroedd i'r fenter; a gwyddom i rywrai ymesgusodi rhag ei ddilyn ac i rywrai ymgynnig ac wedyn tynnu'n ôl - y sefyllfa sydd yn gefndir i rai o ddywediadau 'celyd' Iesu megis 'Gad i'r meirw gladdu eu meirw' (Luc ix.

Eto ni allai ymesgusodi rhag y cyhuddiad ei fod yn cyflwyno pwyslais newydd, gan ddilyn Talsarn a Williams o'r Wern i fynnu nid yn unig ddigonolrwydd haniaethol yr Iawn ond hefyd lydanrwydd y porth a gallu pob pechadur i droi at yr Iachawdwr.

Gwrthwynebwn unrhyw awgrym y dylid cyflwyno dwyieithrwydd mewn dull graddol a chondemniwn unrhyw ymesgusodi rhag dwyieithrwydd cyflawn ar sail cymal 'rhesymoldeb' Deddf y laith Gymraeg 1993.