Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymestynnai

ymestynnai

Yn ystod y cyfnod hwn ymestynnai ymerodraeth Angkor o ororau Môr Tsieina yn y dwyrain hyd at Fôr yr India yn y gorllewin.

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

Yr adeg honno ymestynnai o sir Benfro i rannau o siroedd Trefaldwyn a Henffordd, gan gynnwys o fewn ei ffiniau bron hanner arwynebedd Cymru.

Ymestynnai mor o fyrddau o'i flaen ac ni wyddai lle i angori.

Yn y cyfnod bore, ymestynnai'r wlad a elwid yn Forgannwg o Abertawe i'r afon Wy, a chynhwysai Erging ac Ewias, sydd bellach yn rhan o sir Henffordd.

Ymestynnai Gaenor dros yr olwyn lywio i agor drws y car iddi.

Yr oedd i Forgannwg yr Oesoedd Canol bedwar cantref: Gorfynydd, Penychen, Breiniol a Gwynllŵg; ymestynnai felly o'r afon Dawy i Wysg.

Ymhyfrydai yn y ty moethus cyffyrddus, yn y gerddi a'r perllannau; yn y meysydd eang ffrwythlon a ymestynnai i lawr at Afon Wysg.

Ymestynnai'r canghennau'n fwa ar draws y ffordd ac yma ac acw dyma ddibyn serth neu graig ddanheddog yn ymddangos rhyngddynt, yn union fel rhyw anifail gwyllt.

Roedd un Llandudno fel stryd gefn o'i gymharu a hwn a ymestynnai o'r naill ochr i'r llall yn un lein ddillad hir, ddi-ben- draw gyda phob math o geriach yn rhyw fudr symud uwch ei ben.

Ymestynnai'r ffordd dros y rhostir at ben y clogwyn yn unig ac yn wag yn nhywyllwch y nos.

Y tu ol iddynt, ymestynnai'r fyddin yn rhibyn hir ar hyd yr heol.