Ar y llaw arall y mae'r ymfudwyr yn fynych iawn wedi eu magu yn y gred mai rhan o Loegr yw Cymru ac mai bod yn amrwd ac anghwrtais y mae'r Cymry Cymraeg wrth fynnu siarad yr iaith.
Anghydffurfwyr pybyr oedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr o Gymru, a buan yr aeth y gwahanol enwadau ati i godi capeli a fyddai'n ganolfannau i'w gweithgareddau.
Yn ystod dwy flynedd gyntaf y Rhyfel daeth o leiaf 200,000 o ymfudwyr i Gymru.
Ac felly hawdd oedd iddo gredu mai gwaith da oedd distrywio'r diwylliannau bach - fel y gwnaeth Sbaen yn Ne America ac fel y gwnaeth yr ymfudwyr i ogledd America â diwylliannau'r Indiaid brodorol.
Cred llawer o'r ymfudwyr o hyd eu bod yn gwneud cymwynas trwy wrthod dysgu'r Gymraeg a mynnu nad yw'r Cymry i'w cyfarch yn yr iaith.
Lerpwl oedd y man cychwyn mordeithiau rhai miliynau o ymfudwyr yn y ganrif ddiwethaf - dros naw miliwn rhwng tridegau'r ganrif diwethaf a'r ganrif hon.
O flaen y pum cant a mwy o ymfudwyr a morwyr ar ei deciau, yn edrych gyda theimladau digon cymysg ar y tynfad yn prysur ddiflannu o'u golwg, roedd mordaith o bron i bedwar mis.
I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.
Yr oedd ymfudo o Gymru i Awstralia ar raddfa lawer llai na'r un i America, ond yma eto gwnaed ymdrechion i ddarparu cyhoeddiadau cyfnodol ar gyfer yr ymfudwyr yn eu hiaith eu hunain.
Roedd diwedd caethwasiaeth a Rhyfel Annibyniaeth America yn ergyd economaidd drom i Lerpwl, ond erbyn hynny sefydlwyd llwybrau marchnata newydd i'r Dwyrain Pell a mannau eraill, a manteisiwyd hefyd ar yr holl ymfudwyr a hwyliai o Lerpwl i fyd newydd yn America neu Awstralia.
Meistri yr agerlongau bach a hwyliai rhwng Lerpwl a phorthladdoedd y Fenai oedd Capten Evans a ChaptenTimothy, ac y mae'n bur debyg fod nifer o'r ymfudwyr yn gwneud y fordaith o'r Fenai i Lerpwl, y cam cyntaf o'u teithiau i wledydd pell, ar eu llongau nhw.