Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgadw

ymgadw

Adrodd yr Ymrwyniad Dirwestol wedyn, nerth esgyrn ein pennau þ 'Yr wyf yn addaw, drwy gymorth Dur, ymgadw rhag pob math o ddiodydd meddwol.' Dau fath o blant oedd yna bryd hynny þ plant y Rhodd Mam, yn dda a drwg.

Cilwenodd y dosbarth, er i'r ferch a gynorthwywyd gan Hector ymgadw rhag dangos ei gwerthfawrogiad o ergyd yr athro.

Aeth y daith yn hwy na'i ddisgwyl, a threuliodd ei amser yn gwneud cyfrifon ariannol yn ei ben, a chael ei fod, hyd yn hyn, beth bynnag, wedi ymgadw'n gysurus o fewn ei ffiniau gwario am y dydd.