Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgartrefu

ymgartrefu

Dywed fod tua hanner cant o Gwrdiaid bellach yn byw yng Nghaerdydd a nifer eraill wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd ac Abertawe.

Roedd Ffrancon Elias Jones - o Garmel yn yr hen Sir Gaernarfon - yn un ohonynt a bu'n gymorth mawr i mi ymgartrefu yno.

Wedi sawl blwyddyn yn y mynyddoedd fe benderfynodd ffoi o Cwrdistan, a gan fod ei frawd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd fe ddaeth Kamarin, hefyd, i brifddinas Cymru.

Mae Enid a'r teulu wedi ymgartrefu ym Methesda bellach ac mae hi newydd dderbyn ei gradd yn y Coleg Normal.

O ganlyniad, mae'r swyddfa fechan ym Mhenygroes, ger Caernarfon, lle maent wedi ymgartrefu ar ôl cyfnod byr yng Nghaerdydd, yn prysur lenwi gyda gwaith papur a chasetiau.

Yn wir, mae'r mwyafrif o'r caneuon sydd ar yr albym yma yn siwr o ymgartrefu yn eich meddwl am gyfnod hir.

Nid yw'r enwau hyn, wrth reswm, nac yn Gymraeg nac yn Gymreig ond yn yr ystyr eu bod wedi ymgartrefu'n weddol ymhlith y Cymry dan ddylanwadau o'r tu allan.

Y rheswm pennaf am y lleihad hwn yn nifer y disgyblion oedd fod rhy ychydig o bobl if ainc yn ymgartrefu yn yr ardal.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Brodor o Gaergybi ydi Bob ac wedi ymgartrefu yn Tasmania ers y chwedegau.

"Dwi wrth fy modd beth bynnag yn gweithio efo pobl ifanc," meddai'r ferch sy'n frodor o Fynydd Hiraethog yng Nghlwyd ond sydd bellach wedi hen ymgartrefu yn Harlech.

Pan fu farw ei briod, ni bu yn hir cyn symud i Argoed, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau hyd yr ychydig am amser y bu raid iddo ymgartrefu ym Mhlas-y-Llan.

Hefyd dymuniadau gorau i'r naw sydd wedi ymgartrefu'n hapus yn yr "Abbeyfield" newydd ym Mharc Henblas.

Ac y mae ganddi leiafrif estronol o Saeson dydd wedi ymgartrefu yma ac sy'n cadw at eu ffordd Seisnig o fyw, fel y mae'r Saeson wedi arfer gwneud erioed.