Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgasglu

ymgasglu

Er mai am saith mae'r ffilmio i ddechrau y mae'r gynulleidfa o gant y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu toc wedi pump.

Yr oedd tyrfa wedi ymgasglu y tu allan i lidiardau'r ysgol erbyn hyn.

Ni ddisgynnant yn syth yn ôl i'w lefel egni gwreiddiol - yn hytrach collant beth o'u hegni ychwanegol ac ymgasglu ar un lefel egni arbennig (gw.

Fe'n hysbysodd ein bod i fynd yn ddiymdroi i fan arbennig yn y gwersyll lle'r oedd unedau o ddirprwyaeth filwrol wedi ymgasglu.

Ymunodd plant yr ysgol a'r dorf oedd wedi ymgasglu ar draeth Cemaes i gofio a chymryd rhan yng ngwasanaeth D-Day.

Rhydd y cywydd argraff o brysurdeb a chyffro wrth i'r tyrfaoedd ymgasglu wrth y ffynnon.

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Dadleuir felly i esblygiad y ffurfiau uwchradd gael ei ohirio am oesoedd maith hyd nes bod cyflenwad digonol o ocsigen wedi ymgasglu yn yr amgylchedd a phrosesau metabolig wedi datblygu digon i fanteisio ar hyn.

Cofiai hefyd am ddefaid ac žyn yn gorwedd i farw tan berthi'r meysydd a'r pryfed sydd yn ymbesgi ar lygredigaeth y cnawd yn ymgasglu tan y gwlân cyn i'r corff oeri.

Gall dogn uchel o belydriad niweidio, a lladd, celleoedd, a chan fod canran sylweddol o'r radio-iodin yn ymgasglu yn y thyroid, celloedd y thyroid a gaiff eu heffeithio fwyaf gan y pelydrau.

Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Pan fo dynion yn ymgasglu âi gilydd mae pechod yn anadlu.

Dechreuodd tyrfa ymgasglu yn y prif sgwâr wrth y ffynhonnau.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Hon oedd blwyddyn 'gaeaf yr anniddigrwydd' pan welwyd biniau sbwriel yn ymgasglu ar y strydoedd, ysbytai yn gwrthod cleifion, toriadau yng nghyflenwad bwyd a phetrol, miloedd ar y clwt ac ambell enghraifft o dorrwr beddau yn gwrthod agor beddau.

Wrth i ni adael Hartisheik, rydyn ni'n gyrru heibio i oddeutu cant o bobl sydd wedi ymgasglu y tu allan i gompownd Cronfa Achub y Plant.

Nid oeddem i loetran o gwmpas Cnwc y Clap, cornelyn uchel uwchben harbwr y Cei, a gwrando ar y morwyr a'r pysgotwyr a arferai ymgasglu yno ac adrodd am eu hanturiaethau ar y mor a son am arferion cudd rhai o bobl barchus y Cei a hynny mewn Cymraeg graenus, anfeiblaidd.

Erbyn canol y prynhawn roedd cannoedd wedi ymgasglu i weld y limosîns yn tywys y gwesteion yno ar gyfer y briodas.

Yn yr un modd ag y mae ser yn casglu gyda'i gilydd i ffurfio galaethau, mae galaethau yn ymgasglu'n grwpiau hefyd.