Galwn ar yr holl ymgeisyddion sydd yn medru'r Gymraeg i ddangos eu hymrwymiad i'r iaith trwy ei defnyddio fel eu prif iaith yn y Cynulliad.
Anogwn yr holl ymgeisyddion llwyddiannus nad ydynt yn medru'r Gymraeg ddysgu'r Gymraeg a gwneud defnydd o'r Gymraeg cyn gynted â phosib.
Galwn ar yr holl ymgeisyddion i'r Cynulliad ddatgan eu hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac i roi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg wrth ymwneud â'r cyhoedd.