Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgodymu

ymgodymu

Rwy'n hollol sicr fod y meddwl dynol dan straen fawr pan fo'n ymgodymu â materion nefol uwch clogwyni Deall.

Ond y mae llun syml du a gwyn yn dangos pobl a'r problemau y maent yn gorfod ymgodymu â hwy yn llawer iawn mwy effeithiol.

Y mae'n galondid mawr gweld cenhedlaeth newydd o ysgolheigion ifainc yn ymgodymu â hanes Cymru, ac â hanes Cristionogaeth yng Nghymru'n neilltuol.

Yn hytrach na cheisio ymgodymu â holl gymhlethdodau'r byd sydd ohoni o'r cychwyn cyntaf, y dull arferol o weithredu mewn Economeg yw symleiddio cymaint ag sy'n bosibl ar y cychwyn, ac yna symud ymlaen i ollwng y tybiaethau dechreuol fesul un gan sylwi ar y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r casgliadau gwreiddiol.

Ond beth yw gwerth deall y Pum Pwnc bob un wrth ymgodymu â'r Llythur llathraid, llithrig hwn?

Buont yn ddoeth a chraff yn ymgodymu ag anffyddiaeth glaslanciau (a chyda llaw roedd y dosbarthiadau i hogiau ac i enethod ar wahân) a buont yn gyfrwng ill dau i ehangu gorwelion drwy sôn am y byd mawr oddi allan.

Ond mynd yn offeiriad wnesi, ac yn fuan iawn yn fy ngweinidogaeth fe sylweddolais fod ymgodymu ag ysbrydion yn rhan o'r gwaith.

Mae'r rhain fel arfer wedi ymgodymu â'r busnes.

Mae Layard, fel Jung, yn pwysleisio agweddau deublyg, amwys pethau a phobl a chreaduriaid, yn gweld y ddrysien ddeuben a dyfodd ar fedd mam fiolegol Culhwch, Goleuddydd, fel arwydd o'r hyn yr oedd yn rhaid iddo ei wynebu ac ymgodymu ag ef wrth gychwyn ar ei bererindod at oedoliaeth.

Felly 'Nhad oedd yn ymgodymu â'r cinio.

Eto nid yw hi'n deg disgwyl i drwch y proffesiwn, yng nghanol eu darpariadau ar gyfer y disgyblion, ymgodymu ag adroddiadau ymchwil hirfaith.