'Roedd hyn yn golygu y byddai'r refferendwm â grym gorfodol yn hytrach nag yn asesiad ymgynghorol.
Aed ati felly i sicrhau consensws wrth baratoi'r strategaeth, a gwnaed ymdrech fwriadus i gyflawni hynny yn y broses ymgynghorol.
Mynegodd Alun Michael anfodlonrwydd gydag awgrym mewn dogfen ymgynghorol gan y Swyddfa Gymreig ei hun y byddai'n rhaid aros wyth wythnos am fersiwn dwyieithog o'r cofnodion tra byddai fersiwn Saesneg ar gael ymhen tridiau.
Yn achos Cymraeg Cynradd yr oedd pawb a atebodd wedi derbyn hyfforddiant naill ai gan athrawon ymgynghorol y sir neu gan yr Hyfforddwr Cenedlaethol.
(b) Papur Ymgynghorol y Llywodraeth ar yr Arfordir (i) Rheolaeth Datblygu Islaw'r Llinell Drai (ii) Rheoli'r Arfordir CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.
Er i'r teimlad yma o fod allan yn yr oerfel fod yn gyffredin, bu cryn gefnogaeth i athrawon meithrin o du argyhoeddiad ymgynghorwyr ac athrawon ymgynghorol yr Awdurdodau Addysg Lleol.
Er mor annhebygol ei bod hi'n aelod o'r Seiri Rhyddion yr oedd hi'n aelod o Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol a fu'n gyfrifol am wneud yr argymhelliad a doedd neb yng Nghymru - a dim ond un ffigur uchel yn y Seiri Rhyddion yn Llundain - wedi cwyno.
Yn gyntaf, cynhaliwyd ymgyrch cyhoeddusrwydd cenedlaethol i annog pobl i ddarllen ac ystyried y ddogfen ymgynghorol a chymryd rhan yn yr ymgynghori drwy ymateb yn ysgrifenedig.
Mewn ymdrech ar y cyd rhwng staff ymgynghorol AALl Dyfed, Albion Concrete, Pwyllgor Tywysog Cymru, yr ysgolion ac Uned o'r Fyddin Diriogaethol, mae nifer o ysgolion yn Nyfed wedi derbyn pibellau draenio enfawr.
Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) yw prif gorff ymgynghorol Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar bob agwedd ar gwricwlwm yr ysgol, arholiadau, asesu a chymwysterau galwedigaethol.
Yn ail, cynhaliodd cwmni Beaufort Research ar ein rhan arolwg barn y cyhoedd ar y ddogfen ymgynghorol ym mis Chwefror 1996.
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd, ar ôl derbyn cyngor gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Safleoedd Llongddrylliadau Hanesyddol, roi trwydded i gloddio safleoedd o'r fath.
Felly, mynnwn mai'r ffordd effeithiol o ymdrin â'r Gymraeg ydyw trwy gael rhaglen lorweddol sefydlog fel a argymhellir yn y Papur Ymgynghorol ar gyfer Ewrop, Cyfleodd Cyfartal, yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.
O fewn y Cynulliad ei hun, credwn y byddai'n fanteisiol iawn sefydlu Pwyllgor arbennig i fonitro a gweithredu'r Polisi Dwyieithog yn yr un modd ag yr argymhellir trefniadau yn y Papur Ymgynghorol i fonitro ymddygiad a safonau aelodau'r Cynulliad.
Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghorol Amlinelliad o Strategaeth ar gyfer yr Iaith Gymraeg ar 11 Rhagfyr 1995.
Roedd cytundeb bras â nod ac amcanion y ddogfen ymgynghorol.
Mynegwn ein pryder bod Papur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol wedi dewis canoli grym mewn modd gormodol, yn ein tŷb ni, gyda'r Prif Ysgrifennydd, sydd wedyn yn treiglo grym i lawr trwy'r Pwyllgor Gweithredol a'r Ysgrifenyddion at y Pwyllgor Pwnc a, dim ond wedyn, at y cyhoedd a chyrff allanol a hynny mewn modd a dybiwn ni sy'n arwynebol iawn.
Cyflwynwyd y cynllun lleol drafft i ystyriaeth y Cyngor a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol pryd y penderfynwyd ei fabwysiadu fel cynllun lleol drafft ymgynghorol.
Rhoddwyd cyfle iddynt i gyd-drafod a mynegi eu barn ar y ddogfen ymgynghorol yn gyffredinol, ac yn benodol ar y rhannau ohoni a berthynai i'w priod feysydd.
Pryderwn fod y Pwyllgorau Rhanbarthol a argymhellir ym Mhapur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol, waeth beth fo eu ffiniau, yn debygol o fod yn ddim mwy na siopau siarad.
Eleni etholwyd tri chynrychiolydd o'r sector wirfoddol ar y Pwyllgor Cyd-Ymgynghorol.
Yn achos Ail Iaith Cynradd yr oedd pawb wedi nodi mai gan drefnyddion neu athrawon ymgynghorol y sir y cafwyd yr arweiniad, a'r ganolfan iaith wedi'i enwi gan amlaf, gan y cydlynwyr.
Nododd ambell ysgol, er enghraiift, enw'r athro ymgynghorol sirol, a diolch iddo, ac eraill yn nodi enw'r hyfforddwraig cenedlaethol, heb awgrymu fod iddi statws gwahanol i eiddo'r tîm lleol.
Gan fod pob rhan o'r ymgynghori wedi dangos mesur helaeth o gymeradwyaeth i'r ddogfen ymgynghorol, yr oedd yn gwbl resymol, felly, dderbyn y ddogfen ymgynghorol fel sail gadarn i'r strategaeth ei hun, gan ychwanegu'r her o newid arferion defnyddio'r iaith, ac annog pobl i gymryd mantais o'r cyfleoedd a ddarperir at y tair prif her a nodwyd yn y ddogfen ymgynghorol.
* awdurdodau iechyd lleol sy'n darparu gwasanaeth asesu datblygiad plant a gwasanaeth ymgynghorol i deuluoedd ar ofal plant;
Argymhellwyd y dylid mabwysiadu'r cynllun lleol fel drafft ymgynghorol yn ddarostyngedig i rhai mân newidiadau i bolisi%au unigol.
Yr oedd Pwyllgor Ymgynghorol ar Faterion Staff wedi cyfarfod â chynrychiolaeth o'r Cyngor, ynghyd â swyddogion a chynrychiolwyr o'r undeb y diwrnod blaenorol, lle cafwyd cyfarfod cadarnhaol.
Roedd lefel uchel iawn o gydsyniad ymysg y rhai a ymatebodd ynghylch holl drywyddau'r ddogfen ymgynghorol.
Un a nododd y cafwyd cymorth yn hyn gan dîm ymgynghorol y sir.
(ii) Bod y Prif Swyddog Cynllunio i baratoi adroddiad ysgrifenedig manwl ar y papur ymgynghorol a'i gyflwyno i'r Pwyllgor nesaf er mwyn rhoddi ystyriaeth lawn i'r mater ac anfon sylwadau cynhwysfawr i'r Swyddfa Gymreig.
Ond yma yng Nghymru y cwbl a oedd gennym oedd un diwrnod i Gymru yn y Senedd bob blwyddyn, cyfarfod o benaethiaid y gwasanaeth sifil, a Chyngor Ymgynghorol nad oedd yn cynnwys ond yn unig aelodau wedi eu henwebu gan y Prif Weinidog ei hun.
'Roedd y papur ymgynghorol yn pwysleisio y dylid cymryd costau ariannol ac adnoddau eraill i ystyriaeth wrth ymateb i'r opsiynau a oedd yn cael eu cynnig er gwella'r drefn o warchod ac hyrwyddo ardaloedd cadwraeth.
Nododd un y cafwyd cymorth wrth gynnig hyfforddiant i weddill yr adran gan dîm ymgynghorol y sir.
Cafwyd trafodaeth frwd ar y pwyntiau uchod yn y cyfarfod ar yr 2il o Chwefror, a phenderfynwyd fod y mater yn haeddu trafodaeth bellach mewn Is-Bwyllgor Ymgynghorol.
Mewn ymateb i'r pwysau am ddeddf iaith, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei fwriad i sefydlu Bwrdd Iaith Ymgynghorol.
Cyhoeddwyd y papur ymgynghorol yn sgîl cwynion bod y system gynllunio yn aneffeithiol er rheoli mân newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth.
Roedd y cyfaddefiad gan Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol ('y Grwp') eu bod yn cyfarfod yn uniaith Saesneg yn dipyn o gloc larwm.
Bydd y pwyllgor ymgynghorol lleol yn argymell ffiniau etholaethau i'r Ysgrifenydd Gwladol yn y dyfodol agos.
Papur Ymgynghorol ar Ardaloedd Cadwraeth oedd yr ail ddogfen a dderbyniwyd a oedd wedi ei pharatoi yn arbennig er ennyn trafodaeth ar yr angen am reolaeth cynllunio tros ddatblygiadau bychain oddi mewn i ardaloedd cadwraeth.
Cyflwynwyd y cynllun lleol i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Cynllunio ym mis Medi, ac yna fe'i cymeradwywyd fel Cynllun Drafft Ymgynghorol yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Hydref.
Prif fwriad Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth gyhoeddi'r strategaeth ymgynghorol oedd ceisio datblygu strategaeth mewn partneriaeth â'r cyhoedd, ac â'r sefydliadau sydd â chyfrifoldebau allweddol neu gyfraniad pwysig i wneud dros yr iaith.