Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgynnal

ymgynnal

Gwnaeth y ddau gymhelliad hyn eu cyfraniad tuag at gyflyru'r arweinwyr Cymreig i feddwl na allai Cymru ymgynnal fel cymundod ymreolus.

Swyddogaeth gwladwriaeth yw gwasanaethu'r genedl, fel y mae'r wladwriaeth Brydeinig yn gwasanaethu Lloegr, a thrwy hynny gryfhau a chyfoethogi ei bywyd cymdeithasol a thraddodiadol Yn amgylchiadau'r ugeinfed ganrif y mae bron yn amhosibl i genedl ymgynnal heb wladwriaeth i'w gwasanaethu; edwino a dirywio yw tynged pob cenedl ddi-wladwriaeth.

'A sut ma' hi, Pyrs, wynab yn wynab â'i phrofedigath?' 'Fel cyw gog, 'ngwas i.' 'Y?' 'Mor sbriws ag erioed, ar wahân bod 'na dipyn o ffedoga o dan 'i ll'gada hi.' 'Mae'n dda gin i glywad 'i bod hi'n ca'l y gras i ymgynnal, ac ochneidio'n ddefosiynol.' 'Gwranda, Oba.