I ymgyrraedd at hyn, dadleuai, dylai fod gan bawb ran ym mywyd y genedl - y bywyd ysbrydol, deallusol ac economaidd.
Trwy gyfrannu'n weithredol tuag at iechyd y boblogaeth y mae Sefydliadau'r Merched yn helpu i ymgyrraedd at y nod hwn'.
Ei nod pennaf yw osgoi pob drwg, ac yn arbennig y galluoedd drygionus sydd y tu hwnt i'w ddirnadaeth - osgoi'r drwg ac ymgyrraedd at y da a phrofi llawenydd a bodlonrwydd.
Gallwn ninnau ddweud fod Saunders Lewis y clasurydd - trwy'i adnabyddiaeth dosturiol o gymhlethdod natur dyn, a thrwy herio'i gymeriadau i fentro - ei fod yn osgoi ffurfioldeb crebachlyd y ddeunawfed ganrif, ac yn ymgyrraedd at synthesis rhwng clasuraeth a rhamantiaeth: prawf arall o annigonolrwydd y termau hynny.
Byddent hefyd yn gymorth i ymgyrraedd at amcanion parc cenedlaethol trwy ddefnyddio adeiladau lleol traddodiadol a allai ddirywio yn eu cyflwr, ac hefyd ddarparu arall gyfeirio fferm sydd yn amgylcheddol dderbyniol.
Chwilio'r profiad anghynefin a wnaeth hi, ceisio ymgyrraedd at yr anhraethol.
Yn wir, fe welodd ef lifeiriant datblygiad i raddau uwch na neb arall; a phan gofiom mai dangos dyn yn ymgyrraedd at dynerwch uwch ac at ryddid cydwybod a wna stori datblygiad, gallwn sylweddoli mai cynorthwy i grefydd ac nid gelyn, ydyw'r gred mewn Datblygiad ...