Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymgysylltu

ymgysylltu

Pe bai'r gwahanol fudiadau gwledig yn cyfarfod, yn ymgysylltu ac yn rhannu problemau'n amlach ac yn cynnal llai o ymrafael cyhoeddus yn y papurau newydd, yna byddai gwell gobaith am gytgord a chydymdeimlad.

Ond yr hanfod yw dolennu cyfres o wersi yn ôl datblygiad ystyrlon gofalus gan ymgysylltu â'r canol neu â datblygiad o'r canol.

Yr hyn sydd yn drawiadol yn yr ymdriniaeth yw fod Theophilus yn ymgysylltu â chymaint o Ymneilltuwyr a Methodistiaid ar hyd ei oes, er ei fod mor enwog fel gelyn anghymodlon iddynt.

Yng ngallu grymus ei chof yr oedd Sarah Owen yn ymgysylltu â'r werin Gymraeg cyn i honno fynd i ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac yng nghyfoeth lleferydd ei thafod, yr oedd yn uno treftadaeth hen ddiwylliant Twm o'r Nant â diwyllinat newydd Charles o'r Bala.

yr oedd gan y cwmni%au papur newydd reswm arbennig i ymgysylltu â'r fenter hon, gan eu bod yn gorfod talu crocbris am drosglwyddo eu negeseuon.

Ymgysylltu â'r ymgyrch yn erbyn glo brig oherwydd y bygythiad o du'r diwydiant hwn i gymunedau ym maes glo'r de.