Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymhelaethu

ymhelaethu

Ran fynychaf, digon di-fudd yw eu cynnwys ond yn awr ac yn y man gwelir cyfle i ymhelaethu arnynt.

Does dim angen ymhelaethu.

Ymgais oedd Keats and Shakespeare i ymhelaethu ar y daliadau hyn am 'life- adjustment' a'u cymhwyso at waith un bardd, Keats.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

'Peidiwch â thrafferthu i ymhelaethu, Miss Richards,' meddai'n swta.

Mae'r cwestiwn yn un teg, a gallwn ymhelaethu ar y mathau ar newidiadau sydd wedi ei gwneud yn anos cynnal yr hen drefn.

Gellid, wrth gwrs, ymhelaethu llawer ar y syniad ac ar wahanol agweddau arno ym mywyd Israel; ond dal i drafod syniad diwinyddol am berthynas Duw ag Israel y byddid, heb ddod i'r afael â syniad yr Hen Destament am hanfod cenedl yn gyffredinol.

heb ymhelaethu nac enghreifftio.

Denodd fonllefau o anghrediniaeth o du cynulleidfaoedd teledu America ugain mlynedd yn ôl drwy ymhelaethu'n ddi-lol am olchi llestri a rhyw orchwylion mundane felly nad oedd sêr fod ymhel â nhw.

'Naddo,' atebodd Dilys heb geisio ymhelaethu.