Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymhyfrydai

ymhyfrydai

Ymhyfrydai mewn llawer o bethau, a bydd amryw yn cofio am y sglein gwbl arbennig ar y brasses ar harnes y gaseg.

Er eu trwyddedu, fodd bynnag, 'roedd cryn wrthwynebiad i'r Beiblau Saesneg hyn, gan eu bod yn cefnu'n aml ar destun cyfarwydd y Fwlgat, a chan fod eu Saesneg cartrefol yn taro'n chwithig onid yn gableddus ar glustiau a ymhyfrydai yn sŵn mawreddog, litwrgi%aidd y Fwlgat Lladin.

Ymhyfrydai ym mhob llwyddiant a chlod ac ni allai ddygymod â methiant.

Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.

Ymhyfrydai yntau yn ei olwg, gan ymarfer yn gyson i gadw'n ystwyth.

Ymhyfrydai yn y ty moethus cyffyrddus, yn y gerddi a'r perllannau; yn y meysydd eang ffrwythlon a ymestynnai i lawr at Afon Wysg.

Ymhyfrydai yn ei wreiddiau ym Mhowys.