Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymhyfrydu

ymhyfrydu

Dod i adnabod person arall pan oedd yr adnabod mor bwysig; ymhyfrydu ymhob darganfyddiad bach a ychwanegai'r gronyn lleia o ddiffiniad ar ddirgelwch annelwig cymeriad.

Yr ydwyt yn ein deffro ni i ymhyfrydu yn dy foliant, oblegid Ti a'n creodd ni i Ti dy Hun, ac anniddig yw ein calon nes gorffwyso ynot Ti.

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Fel Sosialydd da mae hi'n ymhyfrydu llawn gymaint yn ei methiannau ag a wna yn ei llwyddiannau.

Fe gododd hen ddadl arall ei phen yn Somalia - lle bydd un garfan yn cyhuddo gohebwyr o ymhyfrydu mewn dangos lluniau o ddioddefaint a'r llall yn wfftio'r syniad fod rhaid amddiffyn y gwylwyr rhag ambell i wirionedd yn enw chwaeth.

Tueddwn ymhyfrydu yn hytrach yn y ffaith fod datblygiadau technolegol wedi gwneud popeth gymaint yn haws na chynt.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Mae'n ymhyfrydu yn y ffaith i'w yrfa gerddorol gychwyn fel chwaraewr fiola yn Ngherddorfa Ieuenctid Cymru ond yr oedd, yr un pryd, yn chwilio am rywbeth tu hwnt i dawelwch Y Garnant.

Yr oedd gwich Ms Wright yn un o ddau beth a ddigwyddodd yn ddiweddar i beri im cenhedlaeth i ymhyfrydu yn y ffaith nad ydyn nhw'n sgwennu caneuon fel yna mwyach.

Mi fydd y Swyddfa Gymreig yn ymosod, yn siarad yn blaen ac yn poeni dim am dynnu pobol i'w phen - a dweud y gwir, mi fydd yn ymhyfrydu yn hynny, gyda'r Is-ysgrifennydd newydd wedi cael cyfrifoldeb am ddau o'r meysydd fyrnica' - addysg ac iechyd.

Mae pob cenedl wâr yn ymhyfrydu yn ei hawduron.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

Does neb yn carrega bellach, ac mor wir yw englyn y diweddar Dafydd Williams, Bryn Hyfryd, Y Garn, Pentrefoelas, i'r chwalwr tail: Ni raid wrth deisi gwair ac ŷd mwyach, ac mae'r grefft o'u toi ymhlith y pethau a fu - un o'r crefftau hynny y byddai dyn yn ymhyfrydu ynddynt ar derfyn dydd.