Y mae iddo dair rhan: y modd yr enillir Enid (a hanes hela'r carw purwyn yn arweiniad tuag ato); adran gysylltiol lle'r â'r arwr a'i wraig i'w teyrnas eu hunain ac ymserchu yn ei gilydd i'r fath raddau nes ennyn beirniadaeth a chrechwen y llys; a hyn eto'n arweiniad at wir thema'r 'rhamant', ymgais Geraint i'w brofi ei hun, neu'i wraig, mewn cyfres o ymladdfeydd sy'n cyrraedd uchafbwynt yn 'chwaraeon lledrithiog' y cae niwl.
Y mae gwrthdaro o fewn byd natur yn ymhlyg yn y trawsnewidiad hwn, er enghraifft cynhelid ffug-ymladdfeydd yn portreadu'r ymryson rhwng Haf a Gaeaf.
Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.