Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymledodd

ymledodd

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ymledodd y Gymraeg i fod yn gwymhwyster dymunol mewn nifer cynyddol o swyddi proffesiynol, ac yn gymhwyster angenrheidiol mewn rhai meysydd newydd, yn arbennig y cyfryngau a rhai swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Cychwynnodd y ddadl ar dir y gwahaniaeth rhwng clasuraeth a rhamantiaeth ac ymledodd gydag amser i gwmpasu trafodaeth ar werthoedd moesol.

Yn raddol hefyd, sylweddolwyd nad haint newydd mo SDIC, ond hen haint a gadwyd o fewn terfynau mewn rhannau arbennig o'r byd, ond a ymledodd trwy'r byd i gyd fwy neu lai, oherwydd mwy o gymysgu rhwng poblogaethau.

Nid trwy lyfr yn unig yr ymledodd hanes Trystan ac Esyllt, ac o gofio poblogrwydd golygfa'r 'oed dan y pren' yn y cyfryngau gweledol, hynod yw nodi na adawodd yr elfen bwysig hon yn y fersiynau cyfandirol o'r hanes unrhyw ôl ar lenyddiaeth Gymraeg.

Ymledodd y ddadl drwy'r llys ac i'r strydoedd a'r tai, i'r clybiau a'r tafarndai, a hyd yn oed i chweched dosbarth yr ysgol.