Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymledu

ymledu

Deil y Deon Church na wnaeth codi cofeb y merthyron fawr o wahaniaeth iddo ymledu yn Rhydychen ac yn y wlad oddi allan.

Yr oedd y streic wedi ymledu dros ryw draean o holl faes glofaol Deheudir Cymru, ac yr oedd teuluoedd y streicwyr yn mynd i ddyled er mwyn cael angenrheidiau bywyd, a'u hiechyd yn dioddef yn arw o ganlyniad i ddiffyg ymborth.

Yn unol â hyn cawn yr Athro W J Gruffydd yn maentumio fod tri chyfnod yn hanes barddoniaeth pob gwlad, sef, i ddechrau, gyfnod barddoniaeth lwythol, yn ail, cyfnod ymledu pryd y derbynnir dylanwadau allanol, ac yn drydydd, cyfnod ymdeimlad cenedlaethol dwys, megis cyfnod Shakespeare yn Lloegr a chyfnod Goethe yn yr Almaen.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

Os oedd Ystorya Trystan, neu'n arbennig y darnau rhyddiaith, wedi cyrraedd ei ffurf bresennol yn gymharol ddiweddar, pan oedd y traddodiadau Ffrangeg wedi cael digon o gyfle i ymledu, gallwn dybio fod elfennau estron wedi eu gwrthod yn fwriadol.

Yn ogystal â lliniaru poen y galarwyr, mae'r tân yn puro, yn diheintio ac yn rhwystro afiechyd rhag ymledu.

Pan oedd y Gristnogaeth yn ymledu yn ninasoedd yr Ymerodraeth ni fynnai'r arweinwyr roi amlygrwydd i'r gweddau ar waith Iesu a fwriai her i ddrygau'r wladwriaeth.

Ond roedd ffigur yn ymddangos drwy'r môr o oleuni a oedd yn ymledu o'r fynedfa.