Yn y diwedd yr oedd ymlyniad Bedwyr wrth fethod ac wrth y gwir yn drech na'i awydd i blesio: ar y weiarles, dysgodd foddi pobl mewn dŵr cynnes, chwedl Tom Jones Llanuwchllyn.
Cafodd fy nhipyn haerllugrwydd ei geryddu gan Gymro adnabyddus a berchir yn haeddiannol am ei ymlyniad wrth heddwch ac wrth Gymru.
Y genhedlaeth ifanc yng Nghymru fel yn yr Unol Daleithiau sy'n gweithredu o ddifrif, mewn ffordd gostus iddyn nhw eu hunain, i orseddu gwerthoedd uwch yn nhrefn ein cymdeithas; cilwgu arnynt gydag ychydig eithriadau a wna'r canol oed parchus sy'n proffesu ymlyniad wrth yr un gwerthoedd.
Yn ei henaint dangosodd gryn ddewrder yn ei ymlyniad wrth gydwybod ar bwnc heddwch a rhyfel, ond er iddo dreulio blynyddoedd yng Nghymru nid ymddengys iddo ymglywed o gwbl â'r cyffro cenedlaethol na dangos y diddordeb lleiaf ym mhwnc cenedlaetholdeb mewn egwyddor na gweithred yng Nghymru.
Ymhob cenedl a fu neu sydd mewn safle trefedigaethol tebyg i Gymru ceir yr un ymlyniad ag a welir yn ein gwlad ni wrth y drefn orchfygol ar draul y genedl gaeth.
Dyna i chi ymlyniad pregethwyr, llenorion ac athrawon y tair canrif ddiwethaf at yr iaith, meddai.
Sut felly mae egluro'r ymlyniad greddfol bron wrth blaid sy'n gymharol newydd?
Fe'i canfyddir yn ymlyniad selog yr arweinwyr milwrol Cymreig wrth y goron Seisnig yn rhyfeloedd Ffrengig y bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif.
Dechreuasant gydag ymlyniad wrth y goron Seisnig (a barhâi yn Ffrangeg ei hiaith, fel y gwnâi'r gyfraith Seisnig), ond o hyn y datblygodd ymlyniad wrth Loegr.
Nid oes amheuaeth am ymlyniad angerddol Iesu o Nasareth wrth ei Israel, ei genedl ei hun.
Mae Maes yr Arian yn ddi-feth yn eu cefnogaeth i'r Arwydd a gwerthfawrogwn hynny a'r ymlyniad teyrngar wrth Fro Goronwy.
Mae lefel yr ymlyniad yn amrywio e.e. ym 1987, bu bygythiad i gau Ysgol Llanfihangel-ar-Arth (a leolir yng nghanol pentref nad sydd ag unrhyw neuadd arall) ac hefyd Ysgol Penwaun (a wasanaethai ardal wledig wasgarog). Achubwyd y naill a chaewyd y llall.
Pa feddyliau bynnag a fartsiai drwy ben y milwr y diwrnod hwnnw, ni fedrai byth ddirnad ymlyniad y gwladwr wrth ei fro, na mesur dymder ei deimladau wrth glywed fod rhaid iddo ei gadael.
Craidd yr anghydfod boneddigaidd hwn oedd ymlyniad y ddeuddyn wrth wahanol syniadau am natur awdurdod.
Er cryfed yr ymlyniad wrth yr arglwydd, boed hwnnw'n frenin neu'n Dywysog Cymru neu'n ŵr mawr o Norman, anodd osgoi'r casgliad fod ymhlith y Cymry ymwybod cryf iawn hefyd â'u cenedligrwydd ac â'r ffaith eu bod bellach yn genedl orchfygedig a than orthrwm.
A mudiad nodedig am ymlyniad ei ddilynwyr wrth Eglwys Loegr a'u serch tuag ati.
Yn yr ystyr hon y mae atheistiaeth yn ffydd sy'n mynegi ymlyniad creiddiol ein personoliaeth.