Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymneilltuwyr

ymneilltuwyr

Yn ogystal â'r ffaith fod yr Ymneilltuwyr yn dadlau ymysg ei gilydd, yr oedd yr elyniaeth yng Eglwyswyr yn dwysa/ u, a'r dadlau'n chwerw wrth i lwyddiant ysgubol Ymneilltuaeth ddod yn fwyfwy amlwg, yn arbennig yn yr ardaloedd diwydiannol newydd.

Nid oedd pawb o blith yr ymneilltuwyr o blaid addysg, beth bynnag, ac yr oedd y gred fod addysg yn creu balchder yn gyffredin yn eu plith.

Ond erbyn canol y ganrif yr oedd Ymneilltuwyr Cymru'n dra awyddus i ddarganfod arwyr.

Yr oedd yn gyfle euraid i orseddu Penri fel un o brif arwyr yr Ymneilltuwyr, a'r Annibynwyr yn anad neb.

Er bod peth gwrthwynebiad iddynt ar y dechrau ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr, buan y gorchfygwyd y rhagfarnau a daeth yr ysgol Sul yn rhyfeddol o boblogaidd ymhob rhan o Gymru.

Er gwaethaf anogaeth y Times, papur Llundain, i Ymneilltuwyr ymatal rhag ymroi i goffa/ u marw Barrow, Greenwood a Penry, 'those misguided men', ni fynnai arweinwyr yr eglwysi yng Nghymru wrando.

Yr hyn sydd yn drawiadol yn yr ymdriniaeth yw fod Theophilus yn ymgysylltu â chymaint o Ymneilltuwyr a Methodistiaid ar hyd ei oes, er ei fod mor enwog fel gelyn anghymodlon iddynt.

Fe'i heriodd i'w wynebu mewn dadl gyhoeddus a phan wrthododd yr eglwyswr cyhoeddodd gyfres o lythyrau chwyrn yn achub cam merched ac Ymneilltuwyr Cymru yn y Monmouthshire Merlin a'r Caernarvon Herald, a'r llythyrau hyn a fu'n sail i'w bamffled grymus, ...

Gwn fod cwmni bach o Ymneilltuwyr cynnar wedi gwneud safiad.

Ond nid oedd y rhesymeg hwn yn atal arweinwyr yr Ymneilltuwyr rhag credu fel yr Eglwyswyr, fod yn rhaid i'r dosbarth gweithiol Cymraeg ddysgu Saesneg.

Nid oedd Ymneilltuwyr ffyrnicach, anhyblycach ym Mhrydain oll nag Ymneilltuwyr Lleyn...

Lleiafrif ohonynt a dderbyniodd unrhyw fath o addysg ffurfiol, ac yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd agor y mwyafrif o academi%au'r ymneilltuwyr.

Anghytunai'r Ymneilltuwyr yn ffyrnig ynglŷn â derbyn cymorth daliadau gan y Llywodraeth i sefydlu a chynnal ysgolion.

I Ieuan Gwynedd a'i debyg, nid oedd eu gwrthwynebu yn ddim ond parhad o ymgyrch hir-dymor i sicrhau addysg deilwng i'r Ymneilltuwyr.

Yr oedd Deddf Goddefiad yn diffinio ar ba delerau y câi'r Hen Ymneilltuwyr gynnal eu hoedfeuon a'u cyfeillachau.

Gan fod yr Eglwys, er y ddeunawfed ganrif, wedi troi ei chefn ar y Gymraeg, yn ôl yr Ymneilltuwyr, nid oedd ganddi hawl i honni ei bod hi'n fameglwys i'r Cymry.

At hyn, gwdsom fod llawer o r dychweledigion yn anfodlon ar fynychu'r Eglwys, megis yr oedd eraill yn anhapus ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr.

O fod wedi disgwyl adroddiad cytbwys, a chynrychiolaeth deg i'r Ymneilltuwyr, roedd sylweddoli mai tri Sais uniaith a apwyntiwyd a'u bod, ynghyd â'r mwyafrif o'u cynorthwywyr, yn Eglwyswyr, yn siom fawr i'r addysgwyr Ymneilltuol yn lleol.

Yr oedd dylanwad yr hen brifysgolion a oedd yn gaeedig tros bron dri chwarter y ganrif i Ymneilltuwyr yn llai nag oedd i fod yn ddiweddarach.

Roedd yr Ymneilltuwyr yn fwy hyblyg, a chynyddai nifer y capeli o bob enwad wrth i'r mewnfudwyr dyrru i'r gweithfeydd o gefn gwlad Cymru.

Cyn codi'r adeiladau hyn arferai'r ymneilltuwyr cynnar ymgynnull yn nhai ei gilydd, mewn ysguboriau a chilfachau diarffordd.

Ond llwyddodd yr Ysgol Sul a hen Ymneilltuwyr yr ardal i roddi yr hen arferion hyn i lawr erbyn heddiw.' (Llsg.

Ar ôl ymddangosiad y Llyfrau Gleision, polareiddiwyd y ddadl, ac er bod nifer o offeiriaid yn Gymry gwladgarol, a rhai ymdrechion dilys ar droed gan yr Eglwys er ceisio gwasanaethu'r Cymry yn yr ardal ddiwydiannol, yr oedd offeiriadaeth Eglwys Loegr fel corff wedi colli pob cydymdeimlad gan yr Ymneilltuwyr.

Y Gymraeg oedd iaith crefydd newydd y genedl, a'r Ymneilltuwyr, felly, oedd amddiffynwyr Cymreictod.