Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.
Câi'r Ymofynnydd fantais ddwbl o'r ffaith fod y golygydd yn ŵr cyhoeddus ac yn gymeriad cenedlaethol.
Yn wir, ni hidiai'r golygydd fotwm corn a gâi'r Ymofynnydd ei got yn ôl ar ei gefn ai peidio, oherwydd nad 'wrth ei glawr mae adnabod cylchgrawn', ac os y byddai gweld yr hen ŵr heb ei gôt 'yn foddion i rywun dynnu ei gôt a thorchi ei lewys', ni byddai neb yn hapusach nag ef.
Bu'r Ymofynnydd erioed yn ddolen rhwng yr aelodau a'i gilydd ac yn bont rhyngddynt a'r byd, a sicrhaodd Jacob fod y swyddogaeth bwysig yma yn cael ei chyflawni yn ystod ei olygyddiaeth ef, gan ei wneud yn gyfrwng mwy effeithiol nag a fu erioed.
Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.
Honnai mai'r Ymofynnydd oedd achos cryfaf yr Undodiaid yng Nghymru, ac os y collid ef na welid atgyfodiad mwy.
Ar y llaw arall, gellid honni bod Yr Ymofynnydd yn ystod golygyddiaeth Jacob wedi adlewyrchu sefyllfa a safbwynt y mudiad yng Nghymru, ynghyd â bod yn llefarydd swyddogol yr Undodiaid Cymraeg.
Mewn ffordd unigryw dangosodd barodrwydd Yr Ymofynnydd ei hun i gyflawni gweithred o aberth, er mwyn parhau i fyw.
Ar y llaw arall, oherwydd cysylltiadau eang y golygydd deuai cynrychiolaeth deg o Gymru gyfan i mewn i'r Ymofynnydd, drwy erthygl a chân, sylw neu lythyr, gan ei wneud yn gyfoethog ei syniadau ac eang ei orwelion.
Gwyddai Jacob fod darllenwyr Yr Ymofynnydd wedi hen gyfarwyddo â gweld eu cylchgrawn yn syrthio i gysgu ar adegau anodd, eithr yn dihuno'n fuan wedi'i atgyfnerthu'n llwyr.
Fel golygydd Yr Ymofynnydd gwasanaethodd fel cydwybod a chennad, amddiffynnwr ac ymosodwr i'w fudiad - y mudiad a garai mor angerddol.
Wrth ddweud yn negyddol fod y mudiad yng Nghymru yn 'ddiymadferth ac yn gwbl anabl i gerdded rhagddo' heb Yr Ymofynnydd, gellid casglu bod y cylchgrawn, yn ôl ei olygydd, yn gefn a chanllaw sicr i'r Undodiaid, a hynny drwy un o'r cyfnodau mwyaf anodd yn hanes y traddodiad rhyddfrydol, a chrefydda yn gyffredinol.
Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.
Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.
Mae diffiniad Jacob o gylchgrawn mudiad crefyddol, fel Yr Ymofynnydd, yn allweddol i ddeall ei amcanion fel golygydd.
Gofalodd y golygydd hefyd, yn ôl ei ddiffiniad o swyddogaeth cylchgrawn crefyddol, na châi'r mudiad fod yn 'fud a diamddiffyn' tra bo byw'r Ymofynnydd.
Gan fod Yr Ymofynnydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth cylchgrawn hanes y mudiad, byddai bywgraffiad ambell arwr, fel Thomas Emlyn Thomas o Gribyn a Gwilym Marles, Llwyn, yn cael llenwi'r misolyn ac ni allai neb a ddarllenodd y rhain fethu â dilyn y thema ganolog a theimlo'r ergydion sylfaenol.