Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymosodiadau

ymosodiadau

Dyna ddull Natur o'i diogelu rhag ymosodiadau ei gelynion.

Ond erbyn y ganrif ddilynol yr oedd yr hen ddelfrydiaeth yn pallu a'r ymosodiadau yn enwedig o du'r offeiriaid secwlar - yn amlhau.

Twpdra a dichell bwriadol 'newyddiadurwr' eilradd ddylai, a sydd, yn gwybod yn well oedd sail ymosodiadau rhyfeddol Betts.

Mwy o aflonyddwch cymdeithasol yn codi i'r wyneb wedi ymosodiadau ar dai a busnesau Iddewon yn Nhredegar, Bargoed a Glyn Ebwy.

Fel arfer, byddai criw Iddewig yn gorfod cael eu cludo i'r dref mewn cerbyd â'i ffenestri wedi eu cryfhau i wrthsefyll ymosodiadau'r intifada.

Yr oedd cysondeb hefyd rhwng dadlau'r achos ar lefel rhesymeg mathemategaidd, haearnaidd, amhersonol, a'i gymysgu ar yr un pryd gydag ymosodiadau poeth, emosiynol ac yn aml enllibus o bersonol.

Y mae cyfrinach llwyddiant ac enwogrwydd y cylchoedd glan môr hyn bellach ynghlwm wrth yr ymosodiadau cyson arnynt gan ymwelwyr o bob math rhwng Ebrill a Hydref bob blwyddyn.

Yn ôl yr adroddiad, mae tua 80% o'r ymosodiadau'n digwydd yn y cartref, tra bod ymosodiadau yn yr ysgol neu ar y stryd yn llai cyffredin.

Daeth yn enwog dros nos fel y dref Almaenig lle mae'r nifer mwyaf o bobl wedi'u llofruddio mewn ymosodiadau hiliol.

Yn ôl yr adroddiad, roedd plant i rieni oedd mewn swyddi lled-fedrus neu ddi-fedr dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef ymosodiadau na phlant i rieni proffesiynol.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Er gwaethaf ymosodiadau John Morris-Jones ni allai'r Eisteddfod ei anwybyddu.

Yr ymgais hon i gynnal balchder yw gwreiddyn yr hanes a ddefnyddiwyd gan Humphrey Llwyd - neu yn hytrach, yr hanes a amddiffynnwyd ganddo, yn wyneb ymosodiadau o'r tu allan.

Gellir amddiffyn metel rhag ymosodiadau rhwd trwy ei orchuddio a phaent, olew, neu rai metalau nad ydynt yn rhydu.

Yn yr Almaen, mae ymosodiadau'r 'Neo-Natsi%aid' ar bobl o dras estron yn parhau, ond cau eu llygaid ar y broblem y mae'r llywodraeth fel y rhan fwyaf o Almaenwyr, yn ôl MARION L™FFLER o Berlin.

Tra oedd yr hyn a gafodd ei alw'n 'drafodaeth lloches' yn mynd rhagddi yn y Bundestag, parhau a wnaeth ymosodiadau'r Neo-Natsi%aid.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Chwech yn marw wedi ymosodiadau treisgar yn ystod streic y glowyr yn Llanelli.

Petai'r Gynhadledd yn derbyn y cynnig hwnnw'n bolisi, yr oedd rhai ohonom yn rhagweld ymosodiadau na fyddem yn gallu amddiffyn y Blaid rhagddynt, a byddai'n rhaid inni ei gadael.

Ac hyd yn oed pan nad oedd pobl flaengar yn derbyn y beirniadu cignoeth ar yr Eglwys, yr oeddent yn rhannu'r ymosodiadau ar y drefn gymdeithasol.

Erbyn hyn 'roedd sifiliaid wedi ymuno yn yr ymladd, a phensiynwyr, gwragedd a phlant yn dioddef ymosodiadau o'r awyr.

Ymosodiadau o'r awyr ar Gaerdydd, gorsaf y Llu Awyr ym Mhenrhos, Gwynedd, Doc Penfro a Llandarsi.

Y rheswm am hyn yw fod y GEM GANOL yn rhyw fath o Dir Neb lle yr ydych ar eich pen eich hun, yn gorfod defnyddio eich dyfeisgarwch a'ch talent eich hun i wrthsefyll ymosodiadau eich gwrthwynebydd.

Ni fu canolbarth Ceredigion yn un o fannau cryfaf y Norman ac felly mae'n bosibl i'r eglwys yn Llanddewi Brefi ddianc rhag ei ymosodiadau gwaethaf.

Yn Solingen, roedd ymosodiadau wedi bod ar y Mosg lleol ac ar siop ffrwythau Dwrcaidd cyn i bump o bobl cael eu lladd.

Ethiopia sy wedi'n gorchfygu ni a byddwn yn ymladd yn erbyn yr ymosodiadau hyn yn fwy nag erioed ac, yn y pendraw, ni fydd yn ennill," meddai.

Eu nod hwy oedd amddiffyn Cristionogaeth yn erbyn ymosodiadau paganiaid ac arddangos rhagoriaeth ddeallusol ac athronyddol ei dysgeidiaeth a'i safon foesol uwch.

Ond doedd MasCanosa ddim yn gweld bod angen bellach am ymosodiadau arfog, gan y byddai Cuba'n cael ei thagu yn economaidd ymhen fawr o dro.

Mae'r graig wedi'i naddu'n glogwyni serth mewn sawl man wrth wynebu ymosodiadau'r lli ers canrifoedd maith.

Mi fu yng ngharehar am gyfnod yn dilyn nifer o ymosodiadau a lladradau yn Llundain a'r eyleh.

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

Yng ngwyneb ymosodiadau rhyfedd a di-sail o bob math o gyfeiriadau roedd pobl yn tynnu at ei gilydd ac yn dangos eu hymrwymiad i egwyddorion sylfaenol oedd ymhell tu hwnt i unrhyw feirniadaeth, o ble bynnag deuai hwnnw.

Darganfu nad oedd yn gallu dygymod â'i duedd flaenorol i gondemnio Eglwys Rufain am ei llygredd a gwendidau eraill, a gofynnai iddo'i hun tybed ai yr eglwys honno yn unig oedd yn ddigon cryf i amddiffyn crefydd yn erbyn ymosodiadau'r rhyddfrydwyr seciwlar.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Chwech yn marw wedi ymosodiadau treisgar yn ystod streic y glowyr yn Llanelli.

Ond yn y ddrama, newidir llawer o bwyslais yr adroddiadau a'u troi'n fwy o ymosodiadau ar Ymneilltuaeth.

Ysgrifennodd wedyn am 'ymosodiadau o wres a oedd yn gwanychu rhywun gymaint fel nad oedd yn bosibl i un a ddioddefai ohonynt wneud diwrnod da o waith.' Yn ôl yr Athro Hugh Thomas, awdur hanes antur Suez, 'roedd Eden yn cymryd dognau helaeth o gyffuriau, yn enwedig bensednne, trwy'r cyfnod hwn, er mwyn ceisio cadw i fynd.

Ond mae Mr Barak wedi rhybuddio y bydd ei fyddin yn taro yn ôl os bydd unrhyw ymosodiadau ar Ogledd Israel.

Arwyddocaol dros ben yw ymosodiadau amryw awdurdodau lleol Cymreig yn Neau Cymru ar yr Eisteddfod Genedlaethol.