Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymosodol

ymosodol

Roedd ymateb Higgins yn bositif ymosodol neithiwr.

Ond os ydym am sicrhau buddugoliaeth rhaid mabwysiadur tactegau ymosodol a drylliou hamddiffyn yn hytrach na chanolbwyntio ar ein hamddiffyn ein hunain.

Ac ail-ddatganwyd egwyddorion sylfaenol Cymdeithas yr Iaith mewn cynnig gan Angharad Tomos a Dafydd Morgan Lewis, sef bod Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sosialaidd, ei bod yn fudiad di-drais sy'n credu mewn heddychiaeth ymosodol ac yn cymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd.

Gwrthodwyd gyda mwyafrif mawr gynnig am weithredu uniongyrchol yn wyneb gweithredoedd ymosodol, ac yr oedd yno awyrgylch o ddicter a rhwystredigaeth hawdd ei ddeall.

Sgrifennai Oakley yn dawel fonheddig, ond Ward yn ymosodol feiddgar, a chanddo ef yr oedd y meddwl miniocaf o'r ddau.

Dafydd Wigley oedd y cyntaf i darfu rhywfaint, diolch byth, ar y tangnefedd gyda chais ymosodol am ddatganiad ar y sefyllfa ddiweddaraf i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Ond ers tri mis, bron, heb ddangos na digalondid ymosodol na dicter na phrudd-der ymwinglyd, fe eisteddai'n dawel yn ei gadair gornel fel hyn a myfyrio yng nghanol y mwg.

Ond bedair munud i mewn i'r ail hanner, dangosodd America eu gallu ymosodol - yr asgellwr Malakai Delai yn croesi'n y gornel ar ôl i Allan Bateman fethu tacl allweddol.

Nid protest barchus, ddienaid (ordentlich) y mae galw amdani ond yn hytrach ddatganiad cryf, ymosodol o bțer.

Nid cred negyddol yw hon, ond yn hytrach sylfaen i ddull cadarnhaol ac ymosodol o weithredu.

Dywedodd ei fod yn rhyfeddu fod amddiffyn timaur undeb wedi cryfhaun sylweddol ond nododd ei syndod i hyn ddigwydd ar draul symudiadau ymosodol.

Yn aml iawn fe fydd y prentis 'ymosodol' yn ei gael ei hun mewn sefyllfa lle mae wedi aberthu gormod, a'i fyddin bellach yn rhy wan i wrthsefyll gwrth-ymosodiad y gelyn pan ddaw.

Mae Sheika wedi ennill ugain o'i 21 gornest ond gydai arddull ymosodol fe fydd yn siwtio Calzaghe yn well na steil negyddol Rick Thornbury a David Starry.

Gwneuthurwr ffilm o Lundain a gafodd Gymrodoriaeth Ffilm Gydwladol Cyngor Ffilm Cymru eleni, ond prin mai i'r diwydiant ffilm Prydeinig y perthyn gwaith arbrofol ac ymosodol Peter Greenaway.

'Amddiffynnol' - ond ystyr 'amddiffynnol' gan amlaf yw 'ymosodol'.

'Gwneud cawl bach neis o bethau, 'ndo?' meddai'r hyfforddwr yn ymosodol.

Haws dweud na gwneud, mi wn, ond o lwyddo i ffrwyno yna prin yw dewisiadau ymosodol Lloegr.

Cyn i mi wneud hynny arferwn dybio fod y bardd, wrth syllu ar donnau'r môr yn torri ar graig, a hynny o bellter teg, yn sydyn wedi eu 'gweld' fel cŵn ymosodol; hynny yw, fod y ddelwedd o gŵn ysgyrnygus wedi ffrwydro i'w feddwl yn y fan a'r lle, yn syfrdanol o uniongyrchol felly.