Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymrannu

ymrannu

Dangosodd hynny nad oedd angen ond ychydig ddygnwch i ennill sedd ar gyngor bwrdeistref nad oedd yn ymrannu'n bendant yn ôl pleidleisiau.

Dangosodd yr astudiaethau hyn fel yr oedd tafodieithoedd yn ymrannu'n ardaloedd ffocol, canolfannau o ddylanwad ar gyfer lledu nodweddion ieithyddol ac ardaloedd trawsnewid rhagddynt, sef ardaloedd yn rhannu nodweddion dwy neu ragor o ardaloedd ffocol cyfagos.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.